'Unigrwydd yw'r her fwyaf': Cynnig cefnogaeth i eraill ar ôl symud o Barcelona a dysgu Cymraeg

Marcel

Mae aelod o staff Prifysgol Bangor sydd wedi dysgu Cymraeg ar ôl symud i'r ardal o Barcelona, yn dweud mai “unigrwydd” yw’r her fwyaf i’r rhai sy’n symud i’r ddinas o dramor. 

Ym mis Tachwedd, daeth Dr Marcel Clusa i’r brig yng Ngwobrau We Are International 2025, gwobrau a drefnir gan Gyngor y Deyrnas Unedig i ddathlu rhagoriaeth ym maes addysg fyd-eang. 

O blith 420 o enwebiadau o 120 o sefydliadau ledled y DU, roedd Dr Clusa ymhlith 13 o bobl a gafodd eu cydnabod mewn seremoni yn y Bloomsbury Ballroom yn Llundain, gan ennill y wobr Aelod Staff y Flwyddyn.

“Roedd yn deimlad sbesial iawn,” meddai wrth Newyddion S4C

“Dwi wastad wedi bod yn falch o’r gwaith dwi’n gwneud. Dwi’n rhywun sydd wastad heb dderbyn ‘na’ a mynd above and beyond i drio cadw’r rhoi’r profiad gorau i fyfyriwr, a’u cadw yng nghanol popeth.”

Fe dreuliodd Dr Clusa, sy’n wreiddiol o Barcelona, flwyddyn yn y ddinas fel myfyriwr Bioleg y Môr yn 2008, cyn dychwelyd i weithio yn y brifysgol.

Mae bellach wedi dysgu Cymraeg ac yn byw yn yr ardal gyda'i bartner, sydd hefyd yn dysgu’r iaith, a'u plant.

Dywedodd bod ei brofiad fel myfyriwr rhyngwladol wedi llywio’r gwaith mae’n ei wneud heddiw yn ei rôl fel ymgynghorydd myfyrwyr.

“Dwi’n gweithio efo myfyrwyr rhyngwladol ym Mangor, ac mae’r gwaith yn amrywio lot,” meddai.

“Bob blwyddyn, da ni’n mynd i meysydd awyr i’w croesawu nhw a dod â nhw i’r brifysgol. 

"Ond mae’r rhan fwyaf o’r gwaith yn helpu pobol hefo visas nhw, hefo accommodation, hefo’r hardship fund i helpu pobl sydd efo problem arian, fel rhywun sydd yn pregnant a sydd ddim hefo pres. 

Image
Marcel
Fe enillodd Dr Clusa gwobr Aelod Staff y Flwyddyn yng Ngwobrau We Are International 2025

"Da ni’n helpu nhw a cefnogi nhw."

Dywedodd hefyd ei fod yn gweithio’n agos â busnesau a grwpiau lleol i annog myfyrwyr i ymwneud â'r gymuned leol.

“Da ni'n trefnu digwyddiadau i ddathlu diwylliant Cymraeg a Cymru," meddai. "Mae ‘na lot o ddigwyddiadau o gwmpas hanes Cymru a’r iaith. Mae genna’ ni sesiynau i myfyrwyr rhyngwladol i ddysgu Cymraeg.

"Da ni’n gweithio efo Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar prosiect am yr amgylchedd a neud beach cleans, i gael students allan yn y cymuned a bildio bridges rhwng nhw a’r gymuned.

‘Unigrwydd’

Bob blwyddyn mae 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn dod i astudio ym mhrifysgolion Cymru.

O’u plith mae 3,500 yn dod i Fangor, ac yn ôl Dr Clusa, mae’n gallu bod yn brofiad “heriol” i fyfyrwyr sy’n symud i wlad newydd.

“Yr unigrwydd yw’r peth mwyaf,” meddai.

“Maen nhw’n dod yma heb teulu, heb ffrindiau ac maen rili anodd i cadw in touch hefo nhw achos ma’ nhw’n gallu bod miloedd o milltiroedd i ffwrdd.

"Mae’r tywydd, y gwahaniaethau cultural — mae hynny'n anodd hefyd ond y teimlad eich bod chi ar ben eich hun sy’n gallu bod fwyaf.

“Weithiau mae 'na natural disaster neu rhyfel, a ‘da ni efo myfyrwyr efo pryderon am eu teuluoedd, neu arian. 

“Weithiau mae eu rhieni wedi colli popeth, ‘be dwi’n neud, does gen i ddim arian, dwi’n styc yma.’ Dyna’r math o bethau ‘da ni’n eu gweld rili a dyna lle da ni’n ceisio cefnogi pobol.”

Fe ychwanegodd: “Mae na lot o fyfyrwyr rhyngwladol sy’n aros ym Mangor trwy’r Nadolig. 

“Mae rhai sydd ddim yn dathlu’r Nadolig, ond i’r rhai sydd yn, da ni’n trefnu digwyddiadau bach hefo’r Undeb Myfyrwyr a busnesau lleol i cael rhywbeth ar ddiwrnod Dolig, rhywbeth i ddod a pobl at ei gilydd.”

Er yr heriau ariannol sy’n wynebu prifysgolion ar draws y wlad ar hyn o bryd, mae Dr Clusa yn credu fod y brifysgol yn llwyddo yn eu hymdrechion i recriwtio myfyrwyr o dramor.

“Mae Bangor yn ddinas ryngwladol," meddai. 

"Mae 'na lot o myfyrwyr a staff o dramor yma a lot o staff o dramor hefyd yn Ysbyty Gwynedd. Mae’n ddinas sy’n denu lot o bobl arbennig o bob rhan o’r byd.

“Mae wastad angen mwy o recriwtio mewn unrhyw brifysgol ar hyn o bryd. Mae’r rhifau yn dda ac yn sefydlog.

“Ond dwi ddim yn licio siarad am fyfyrwyr rhyngwladol mewn termau eu hincwm. Mae’n rhaid i ni ffocysu ar eu arbenigedd a’r cyfleoedd maen nhw’n cynnig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.