Ysgol ar gau wrth i dros 250 o ddisgyblion a staff adrodd symptomau ffliw
Fe fydd ysgol yng Nghaerffili ar gau ddydd Llun wedi i dros 200 o staff a disgyblion ddweud eu bod yn sâl gyda symptomau ffliw.
Mae dros 240 o ddisgyblion a 12 aelod o staff yn Ysgol Uwchradd Martin yn sâl, meddai’r prifathro Lee Jarvis.
Mewn llythyr at rieni a gofalwyr ddydd Gwener dywedodd ei fod wedi ymgynghori gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn cau’r ysgol.
“Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi profi cyfraddau salwch sylweddol tebyg i ffliw ymhlith disgyblion a staff,” meddai.
“Ar hyn o bryd, mae 242 o ddisgyblion a 12 aelod o staff ddim yn gallu mynychu oherwydd symptomau fel chwydu, dolur rhydd, tymheredd uchel, peswch, cur pen, blinder, ac effeithiau cyffredinol tebyg i ffliw.
“Mae'n ymddangos ei fod yn cymryd tua saith diwrnod ar gyfartaledd i adfer.
“Yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, byddwn yn cau'r ysgol dros dro i ganiatáu cyfnod ‘torri’ byr, lleihau trosglwyddiad pellach, a glanhau’r adeilad yn drylwyr.”
Daw hyn wythnos wedi i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddweud eu bod yn ymchwilio i nifer o achosion o heintiau anadlon yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan ym Mryncoch, Castell-nedd Port Talbot.