Croesfannau i gerddwyr angen caniatáu mwy o amser yn ôl ymchwil newydd

Croesfan

Dylai croesfannau i gerddwyr ganiatáu mwy o amser er mwyn i bobl â phroblemau symud a cherddwyr hŷn eu defnyddio'n ddiogel, medd ymchwil newydd.

Fe wnaeth astudiaeth gan brifysgolion Caerfaddon, Birmingham ac Exeter ddod i’r casgliad fod y cyfnod amser rhwng croesfannau yn y DU fwy na dwy eiliad yn fyrrach nag sydd ei angen ar rai pobl.

Yn ôl yr ymchwil dim ond 1.5% o oedolion hŷn â phroblemau symudedd sy'n cerdded yn ddigon cyflym i groesi'r ffordd o fewn yr amser a ganiateir fel arfer gan groesfannau cerddwyr.

Yn ystod yr astudiaeth cafodd cyflymder cerdded 1,110 o oedolion 65 oed a hŷn ei ddadansoddi.

Roedd eu cyflymder cerdded ar gyfartaledd 0.77 metr yr eiliad, ymhell islaw'r 1.2 metr yr eiliad sy’n cael ei dybio gan y rhan fwyaf o groesfannau i gerddwyr.

Mae hyn yn golygu y byddai'r bobl o'r astudiaeth yn cymryd 6.5 eiliad i groesi ffordd bum metr - mwy na dwy eiliad yn hirach na'r hyn y mae'r golau gwyrdd ar groesfan fel arfer yn ei ganiatáu.

'Dirywio'

Dywedodd Dr Max Western, o Ganolfan Cymhelliant a Newid Ymddygiad Prifysgol Caerfaddon: “Efallai bod amseroedd croesi presennol yn afrealistig i lawer o bobl hŷn sy’n wynebu heriau gyda’u symudedd.

“Nid mater diogelwch yn unig yw hwn – mae’n rhwystr posibl i annibyniaeth, gweithgaredd corfforol, a chysylltiad cymdeithasol, sydd i gyd yn aml yn dirywio yn ddiweddarach mewn bywyd.”

Yn ôl yr ymchwil, byddai angen i fwy na hanner y rhai wnaeth gymryd rhan yn yr astudiaeth gynyddu eu cyflymder cerdded cyfforddus 50% neu fwy i groesi ffordd gyffredin yn ddiogel.

Dywedodd yr ymchwilwyr y byddai addasu amseroedd croesi i adlewyrchu cyflymder cerdded o 0.7 metr yr eiliad yn caniatáu i fwy o bobl groesi’n ddiogel ac yn hyderus.

Llun: Diogelwch Ffyrdd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.