Bron i 50% o bobl ifanc yn defnyddio'u ffonau tra'n gyrru

Gyrru a defnyddio ffon symudol

Mae bron i 50% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn darllen neu'n danfon neges destun ar eu ffonau symudol tra'n gyrru.

Cafodd arolwg o 2,2025 o bobl ifanc y DU ei gynnal, gyda chanfyddiadau'n dweud bod gyrwyr ifanc yn "ei chael hi'n anodd tynnu sylw i ffwrdd o natur ffonau symudol".

Roedd tua 43% o yrwyr rhwng 17-24 oed yn dweud eu bod wedi ysgrifennu neu ddarllen negeseuon ar eu ffonau symudol yn anghyfreithlon o fewn y 12 mis diwethaf.

Mae hynny'n cymharu gyda 29% o yrwyr rhwng 35-44 a 10% o'r rhai rhwng 45-54.

Dywedodd elusen, IAM RoadSmart wnaeth gynnal yr arolwg, bod danfon negeseuon testun, edrych ar y cyfryngau cymdeithasol a galwadau fideo yn "rhemp" ymysg gyrwyr ifanc.

Fe ddywedodd un o bob chwech (16%) o yrwyr ifanc eu bod wedi ymwneud â negeseuon testun wrth y llyw yn ystod o leiaf hanner eu teithiau.

Dywedodd mwy na thraean (34%) eu bod wedi defnyddio ffôn llaw (handheld) i recordio lluniau fideo neu dynnu llun tra'n gyrru.

Cafodd cosbau am ddefnyddio ffôn yn anghyfreithlon eu dyblu ym mis Mawrth 2017 i ddirwy o £200 a chwe phwynt ar eich trwydded.

'Goblygiadau'

Mae dadansoddiad o'r arolwg wedi canfod fod troseddwyr hefyd yn wynebu costau “cyfreithiol ac yswiriant" sy’n dod i gyfanswm o hyd at £12,000.

Mae ffigurau’r Adran Drafnidiaeth yn dangos bod 154 o bobl wedi’u lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau ar ffyrdd Prydain lle’r oedd gyrrwr yn defnyddio ffonau symudol y llynedd.

Dywedodd cyfarwyddwr polisi a safonau IAM RoadSmart, Nicholas Lyes fod angen i bobl ifanc bod yn "fwy gofidus am oblygiadau" defnyddio ffonau symudol wrth y llyw.

“Nid yn unig y mae nifer pryderus o bobl ifanc yn wynebu marwolaeth, ond maen nhw hefyd yn rhoi eu hunain mewn perygl ariannol enfawr wrth ildio i’r ysfa i ddefnyddio eu ffôn clyfar," meddai.

“Er bod yr ofn o golli allan yn ymddangos yn broblem enfawr wrth yrru, dylai gyrwyr iau fod yn llawer mwy gofidus am oblygiadau defnyddio ffôn yn anghyfreithlon.

“Hyd yn oed os nad yw’r risg o wrthdrawiad difrifol yn ddigon i atal yr ymddygiad hwn, bydd colli eich trwydded mor gynnar yn effeithio eich gallu i gael swydd, yn amharu ar addysg, ac yn eich rhoi dan anfantais ariannol sylweddol.

“Efallai mai man cychwyn da fyddai cyfateb y ddirwy â phris ffôn clyfar newydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.