Dŵr yn gollwng yn y Louvre yn difrodi cannoedd o gyfrolau

Louvre

Mae dŵr sydd wedi gollwng yn y Louvre wedi difrodi cannoedd o gyfrolau, wythnosau yn unig wedi i ladron ddwyn rhai o dlysau Brenhinol Ffrainc o’r amgueddfa.

Dywedodd Francis Steinbock, dirprwy weinyddwr yr amgueddfa, eu bod nhw’n parhau i gyfrif y difrod ond bod tua 300-400 o weithiau, llyfrau yn bennaf, wedi eu heffeithio gan y dŵr.

Dywedodd Mr Steinbock wrth y cyfryngau yn Ffrainc fod y difrod wedi digwydd yn yr adran Eifftaidd ym mis Tachwedd.

Roedd y cyfrolau yn cynnwys rhai o ddiwedd yr 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ond nid oedd "unrhyw lyfrau gwerthfawr" wedi'u heffeithio, meddai.

Roedd y broblem yn hysbys ers blynyddoedd ac mae gwaith atgyweirio wedi ei drefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, ychwanegodd Mr Steinbock.

Bydd y cyfrolau'n cael eu sychu, eu hanfon at rwymwr llyfrau a'u hadfer cyn cael eu dychwelyd i'r silffoedd, meddai.

Disgrifiodd Mr Steinbock y llyfrau fel "cyfnodolion Eifftoleg" a "dogfennaeth wyddonol" o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif.

"Nid oes unrhyw greiriau sy’n rhan o’n treftadaeth wedi'u heffeithio gan y difrod hwn," meddai Mr Steinbock wrth asiantaeth newyddion Agence France-Presse.

Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw golledion nad oes modd eu hadfer yn y casgliadau hyn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.