Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ar bont
Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ar bont yn Sir y Fflint.
Cafodd yr heddlu wybod am y gwrthdrawiad am 18:00 nos Sadwrn ar ffordd yr A548 yng Nghei Connah, Glannau Dyfrdwy.
Roedd y dyn a oedd yn gyrru'r beic modur wedi marw yn y fan a'r lle.
Doedd dim cerbyd arall yn y gwrthdrawiad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Donna Vernon o Heddlu'r Gogledd: " Yn gyntaf, rydym yn meddwl am deulu'r dyn ar yr adeg anodd hon.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a welodd y beic modur yn teithio ar ffordd yr A548 cyn hynny i gysylltu â ni, cyn gynted â bo modd."
Mae'r ffordd yn dal i fod ar gau, gyda'r traffig wedi ei ddargyfeirio.
Mae'r heddlu wedi diolch i deithwyr a'r gymuned yn lleol am eu hamynedd.
Mae modd cysylltu â'r heddlu gydag unrhyw wybodaeth drwy gysylltu â'u gwefan neu ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000837528.