Cyhuddo dyn o ymosod ar ddynes oedd yn mynd â’i chi am dro
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhuddo dyn ar ôl ymosodiad honedig ar ddynes oedd yn mynd â’i chi am dro ym Mae Colwyn.
Mae Tyler Evans, sy’n 25 oed o Fae Colwyn, wedi cael ei gyhuddo o ymosodiad rhywiol drwy gyffwrdd, dinoethi a meddu ar gyffur rheoledig dosbarth B – canabis. Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun.
Dywedodd yr heddlu bod y dyn wedi ei arestio nos Fercher.
Maen nhw’n parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad yn ardal Parc Eirias rhwng 19.00 a 20.00 ddydd Llun, 6 Hydref
Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd ar gyffordd Ffordd Abergele a Ffordd Groes.
Maen nhw'n annog unrhyw un a oedd yn gyrru drwy'r ardal, neu a ymwelodd â Chanolfan Hamdden Parc Eirias neu'r caeau chwaraeon cyfagos yn ystod y cyfnod hwnnw, ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu â nhw.
Mae'r llu yn dweud gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101, neu drwy’r wefan, gan ddyfynnu’r cyfeirnod C015799.