Alun Wyn Jones: 'Ddim yn falch' o fod wedi teithio'r byd heb siarad yr iaith

Alun Wyn Jones

Mae’r arwr rygbi Alun Wyn Jones wedi dweud bod methu siarad ei iaith ei hun wrth deithio’r byd yn “rhywbeth nad ydw i’n falch ohono”. 

Nawr mae cyn-gapten Cymru a’r Llewod yn benderfynol o newid ac yn dweud bod dysgu Cymraeg “i wneud gyda 'nabod fy ngwreiddiau a pherthyn i fy ngwlad.”

Fe fydd yn ymddangos ar raglen Iaith ar Daith ar S4C ddydd Sul.

Wrth ffilmio'r rhaglen, dywedodd Alun Wyn Jones: "Roedd teithio'r byd a pheidio gallu siarad dy iaith - wrth edrych yn ôl - yn rhywbeth nad ydw i'n falch ohono.

"Nawr, gyda tair merch a gwraig sydd yn siarad Cymraeg adref - dwi angen gwybod beth sy'n mynd ymlaen ond, yn y pendraw, mae rhan fawr ohono i wneud gyda 'nabod fy ngwreiddiau a pherthyn i fy ngwlad."

Pob wythnos ar Iaith ar Daith mae person enwog yn teithio i fannau gwahanol o Gymru er mwyn dysgu mwy o'r iaith a chymryd rhan mewn sialensau, a hynny yng nghwmni mentor adnabyddus.

Ym mhennod gyntaf y gyfres newydd, mae Alun Wyn Jones yn ymuno â’r actor a'r brodor o Abertawe, Steffan Rhodri. Mae Steffan yn seren ffilm, theatr a theledu ac yn adnabyddus i lawer fel Dave Coaches o’r gyfres gomedi boblogaidd Gavin & Stacey.

Mae’r ddau yn teithio o gwmpas Cymru, yn ymweld â llefydd ac eiliadau sydd wedi siapio eu bywydau. 

Yn Ninas Mawddwy, de Gwynedd, maen nhw’n ymweld â Wern Ddu, cartret teuluol ochr mam Alun, lle mae’n cofio ymweld fel bachgen bach ac yn cwrdd â pherthynas bell sydd dal yn byw yn yr ardal. 

Mae’r daith yn mynd â nhw i Glwb Rygbi Bôn-y-maen, Abertawe, sydd ag arwyddocâd arbennig i Alun, cyn dychwelyd i Goleg Llanymddyfri, Sir Gâr, lle bu’n astudio Safon Uwch ar ysgoloriaeth rygbi.

Mae’r gyfres newydd hon hefyd yn cyflwyno elfen newydd o hel achau. Yn ogystal â dysgu Cymraeg, mae’r cyfranwyr yn olrhain eu hanes teuluol, gan ddarganfod straeon personol ar hyd y ffordd.

Yn ddiweddarach yn y gyfres, mae’r actor Callum Scott Howells (It’s a Sin) yn ymuno â’r cerddor Lisa Jên o'r band 9Bach, a Melanie Walters (Gavin & Stacey) yn cael ei thywys gan ei ffrind, yr actor Donna Edwards (Pobol y Cwm).

Bydd Iaith ar Daith gydag Alun Wyn Jones a Steffan Rhodri i'w gweld ar S4C nos Sul yma, 12 Hydref, am 9pm, ac ar gael hefyd ar S4C Clic ac BBC iPlayer.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.