Dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio Ian Watkins

Ian Watkins

Gall y manylion yn yr erthygl hon beri gofid i rai 

Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio'r troseddwr rhyw a chyn-ganwr y Lostprophets Ian Watkins yng ngharchar Wakefield, Sir Gorllewin Efrog fore Sadwrn. 

Roedd y cyn-ganwr o Bontypridd yn treulio dedfryd o garchar am 29 mlynedd yno am droseddau rhyw yn erbyn plant.  

Yn ôl adroddiadau, dioddefodd ymosodiad â chyllell.  

Mae'r ddau ddyn sydd wedi eu harestio yn 25 a 43 oed, ac yn y ddalfa.  

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd yr heddlu: “Am 09:39 y bore yma, cafodd yr heddlu eu galw gan staff carchar Wakefield, wedi adroddiadau fod ymosodiad yno  

“Cafodd y gwasanaethau brys eu galw a chyhoeddwyd yn ddiweddarach fod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle. 

“Mae ditectifs yn cynnal ymchwiliad ac yn dal i fod ar y safle.”

Cafodd cyfyngiadau symud eu cyflwyno yn y carchar yn syth wedi'r digwyddiad. 

Cafodd Watkins a oedd yn 48 oed, ei garcharu fis Rhagfyr 2013, ar ôl pledio'n euog i gyfres o droseddau rhyw, yn cynnwys ymgais i dreisio baban un o'i gefnogwyr. 

Cafodd ei arestio wedi i'r heddlu gynnal gwarant cyffuriau yn ei gartref ym Mhontypridd ym mis Medi 2012, pan gafodd sawl cyfrifiadur, ffonau symudol, a dyfeisiadau storio eu cymryd o'r cartref.

Dioddefodd Watkins ymosodiad yng ngharchar Wakefield fis Awst 2023. Cafodd ei gludo i'r ysbyty. 

Doedd ei anafiadau bryd hynny ddim yn peryglu ei fywyd.  

Yn 2019, cafodd 10 mis yn ychwanegol at ei ddedfryd, am fod â ffôn symudol yn ei feddiant yn y carchar. 

Honnodd fod dau garcharor wedi ei orfodi i gael y ffôn, er mwyn iddyn nhw gysylltu â menywod a oedd yn anfon llythyron ato. 

Wrth roi tystiolaeth, gwrthododd gyhoeddi enwau'r dynion, ond dywedodd: "Ni fyddech yn dymuno eu croesi nhw."

Llun: Heddlu De Cymru 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.