Ehangu cynllun grantiau ar gyfer cymunedau Cymraeg eu hiaith
Fe allai grwpiau Cymraeg eu hiaith ar hyd a lled y wlad wneud cais am grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau cymunedol wrth i'r cynllun ehangu.
Nod y grantiau yw i helpu grwpiau sydd yn arwain busnesau cymdeithasol neu brosiectau tai cymunedol.
Ers dros dair blynedd mae’r cynllun grant Perthyn wedi bod yn cefnogi cymunedau sydd â nifer uchel o ail gartrefi – gan gynnwys llefydd fel Sir Benfro ac Ynys Môn.
Yn ystod y cyfnod hwn mae 64 o grantiau wedi cael eu rhoi i gymunedau yn yr ardaloedd yma, yn ogystal ag yng Ngwynedd, Conwy, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.
Bellach, fe fydd y cynllun yn cael ei ehangu i gynnwys cymunedau ledled Cymru gyfan, wrth i gyfanswm y cyllid gynyddu i £400,000 eleni.
Ymhlith y prosiectau sydd wedi manteisio ar y cynllun yn y gorffennol y mae Bys a Bawd Pawb yn Llanrwst, Sir Conwy.
Daeth y gymuned at ei gilydd gyda'r nod o brynu a rhedeg siop lyfrau Bys a Bawd yn y dref er mwyn creu canolfan lenyddol Gymraeg, darparu llety fforddiadwy i bobl leol uwchben y siop yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli.
'Tyst i rym cymunedau'
Dywedodd Nia Clwyd Owen, Cadeirydd Gweithgor Bys a Bawd Pawb a chynghorydd dros Lanrwst a Llanddoged bod y grant wedi bod yn “sylfaen i ddatblygiad y fenter.”
"Heb gymorth y grant Perthyn, mae’n annhebygol y byddai Bys a Bawd Pawb yn y sefyllfa gadarnhaol y mae’r fenter gymunedol ynddi heddiw.
"Yn ogystal, defnyddiwyd y grant i gynnal cyfres o ddigwyddiadau yn Llanrwst, gan roi cyfle i’r gymuned leol ddysgu mwy am y fenter a’i chefnogi drwy fuddsoddi.
"Mae’r llwyddiant hwn yn dyst i rym cymunedau pan roddir y gefnogaeth briodol iddynt.”
Ymhlith rhai o’r prosiectau eraill sydd wedi elwa o'r cynllun mae Hwb Penmachno yng Nghonwy sydd bellach yn helpu'r gymuned gyda menter dai gymunedol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r prosiectau ysbrydoledig hyn a arweinir gan y gymuned yn dangos pŵer gweithredu lleol i gryfhau cymunedau Cymraeg.
“Drwy ehangu cynllun grant Perthyn ledled Cymru, rydym yn rhoi cyfle i fwy o gymunedau gymryd rheolaeth o'u dyfodol o ran tai a sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i fod wrth wraidd eu mentrau."
Mae angen i grwpiau cymunedol wneud cais am y grant erbyn 21 Tachwedd 2025 ar yr hwyraf, a hynny ar wefan Cwmpas.