Cyn brif hyfforddwr rygbi Cymru wedi marw'n 43 oed

Warren Abrahams

Mae cyn brif hyfforddwr Tîm Rygbi Menywod Cymru, Warren Abrahams wedi marw yn 43 oed.

Cafodd ei benodi'n brif hyfforddwr yng Nghymru ym mis Tachwedd 2020, cyn iddo adael lai na naw mis yn ddiweddarach, wedi iddo fe ac Undeb Rygbi Cymru ddod i gytundeb.   

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru: "Pob cydymdeimlad i deulu a ffrindiau Warren Abrahams gan bawb yn rygbi Cymru."

Roedd Warren Abrahams yn hyfforddi tîm menywod saith bob ochr Gwlad Belg mewn pencampwriaeth yn Nairobi, Kenya pan fu farw'n sydyn. 

Mewn datganiad, dywedodd Ffederasiwn Rygbi Gwlad Belg: " Mae Rygbi Gwlad Belg yn galaru wedi marwolaeth sydyn Warren Abrahams.

"Mae'r mesurau angenrheidiol yn eu lle er mwyn cefnogi'r chwaraewyr a'r staff. 

"Mae'r tîm eisoes wedi dychwelyd i Wlad Belg, a byddan nhw yn parhau i gael cymorth seicolegol er mwyn eu cynorthwyo drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn."

Dyw achos ei farwolaeth ddim wedi ei gyhoeddi. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.