Ymgynghori ar addasu rheolau treth ar gyfer perchnogion llety gwyliau
Dros y misoedd nesaf bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal i edrych ar addasu rheolau treth ar gyfer perchnogion llety gwyliau hunanarlwyo yng Nghymru.
Ers mis Ebrill 2023, mae'n rhaid i lety hunanarlwyo gael ei rentu am 182 diwrnod mewn blwyddyn i dalu ardrethi busnes.
Os nad ydi llety yn cyrraedd y targed yma mae'n cael ei ystyried fel ail gartref, felly mae'n rhaid i berchnogion dalu'r dreth gyngor.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi cyflwyno'r rheolau i sicrhau bod perchnogion llety gwyliau yn gwneud "cyfraniad teg" at eu cymuned.
Ond erbyn hyn mae'r llywodraeth yn ceisio barn ar ddau newid penodol i'r ffordd y mae'r rheolau yn cael eu cymhwyso.
Y bwriad ydi rhoi "sefydlogrwydd ychwanegol" i'r sector dwristiaeth yng Nghymru yn ôl y llywodraeth.
Yn gyntaf maen nhw'n cynnig caniatáu i berchnogion llety gwyliau i rentu am 182 diwrnod ar gyfartaledd dros sawl blwyddyn.
Mae hyn yn golygu y byddai'r rhai sydd wedi colli'r cyfle, o drwch blewyn, i osod eu llety gwyliau am 182 diwrnod yn y flwyddyn ddiweddaraf yn aros ar ardrethi busnes os oedden nhw wedi ei gyflawni ar gyfartaledd dros ddwy neu dair blynedd flaenorol.
Maen nhw hefyd yn cynnig caniatáu hyd at 14 diwrnod o wyliau am ddim sy'n cael ei roi i elusen i gyfrif tuag at y targed o 182 diwrnod.
'Cefnogi perchnogion'
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, ei fod yn awyddus i "gefnogi" perchnogion llety gwyliau.
"Ry'n ni'n gwybod bod twristiaeth yn gwneud cyfraniad pwysig at economi a bywyd Cymru. Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig, ac ry'n ni am sicrhau ein bod yn gwireddu'r potensial hwnnw mewn ffordd sy'n sicrhau cydbwysedd rhwng ein cymunedau, ein busnesau, ein tirweddau a'n hymwelwyr.
"Ry'n ni cydweithio'n agos â busnesau twristiaeth a lletygarwch i helpu i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu, gan sicrhau bod pawb yn gwneud cyfraniad teg tuag at economïau lleol ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
"Er bod y rhan fwyaf o berchnogion llety gwyliau eisoes yn bodloni'r rheolau newydd a gyflwynwyd o 2023, gyda 60% o eiddo yn bodloni'r meini prawf gosod, rydym wedi gwrando ar y rhai sy'n gweithio yn y sector ac yn cynnig newidiadau bach i'r rheolau presennol i'w cefnogi."
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 20 Tachwedd ac, yn amodol ar ei ganlyniad, byddai angen deddfwriaeth i weithredu'r cynigion hyn.
Byddai unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026.