'Gall profion argyfwng ffonau symudol y DU roi dioddefwyr camdriniaeth ddomestig mewn perygl'

Rhybudd ffonau

Mae elusen wedi rhybuddio y gallai prawf argyfwng i ffônau symudol "gyfaddawdu diogelwch" pobl sydd yn, neu wedi dioddef camdriniaeth ddomestig.

Fe fydd prawf argyfwng yn cael ei gynnal ar hyd a lled y Deyrnas Unedig am tua 15:00 ar ddydd Sul 7 Medi.

Bydd ffonau symudol sydd wedi eu cysylltu i rwydweithiau 4G a 5G yn crynu a bydd seiren uchel o'r ffonau i'w clywed am hyd at 10 eiliad.  

Mae elusen, Cymorth i Ferched Cymru, yn rhybuddio y gallai hyn effeithio ar ddiogelwch ddioddefwyr camdriniaeth ddomestig sydd yn cadw ffôn cudd.

Dywedodd yr elusen eu bod yn argymell i bobl newid y gosodiadau ar eu ffônau symudol i beidio derbyn y prawf argyfwng os ydynt yn y fath sefyllfa.

"I oroeswyr sydd â ffônau symudol cudd, fe allai hyn gyfaddawdu eu diogelwch," meddai'r elusen.

"Er mwyn atal y larwm argyfwng, rydym yn eich hargymell i ddewis peidio derbyn rhybuddion argyfwng.

"I wneud hyn, bydd angen i chi fynd mewn i osodiadau a chwilio am 'severe alerts' ac 'extreme alerts' a dewis i beidio derbyn rhybuddion."

Ar iPhone, bydd angen i ddefnyddwyr fynd i 'notifications' a sgrolio i waelod 'apps' a dewis i beidio derbyn rhybuddion os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Ar Android bydd angen chwilio am 'Emergency Alerts' ac yna dewis peidio derbyn rhybuddion.

Ychwanegodd Cymorth i Ferched Cymru: "Rydym yn annog unrhyw un sy'n defnyddio dyfais gudd er eu diogelwch i adolygu'r gosodiadau hyn cyn gynted â phosibl.

"Bydd Cymorth i Ferched Cymru yn cyhoeddi llun gyda gwybodaeth sy'n seiliedig ar ddelweddau er mwyn dangos beth i wneud hefyd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.