Saith newid i dîm Cymru i wynebu Canada yng Nghwpan y Byd
Mae’r prif hyfforddwr Sean Lynn wedi gwneud saith newid i dîm Cymru fydd yn wynebu Canada ddydd Sadwrn yn eu hail gêm yng Nghwpan y Byd Menywod.
Fe gollodd Cymru 8-38 yn erbyn yr Alban yn eu gêm agoriadol ddydd Sadwrn diwethaf.
Oherwydd bod Cymru wedi colli yna mae’n rhaid iddyn nhw guro Canada os am unrhyw obaith i fynd trwyddo i'r rowndiau nesaf.
Gan ystyried bod Canada yn ail ar restr detholion y byd, fe fydd gan Gymru dalcen called i’w curo yn Salford.
Fe fydd y blaenasgellwr Bethan Lewis, fydd yn ennill ei 60ain cap, yn arwain y tîm am y tro cyntaf gan fod y cyd-gapteniaid Alex Callender a Kate Williams wedi’u hanafu.
Mae disgwyl i’r ddwy fod ar gael ar gyfer gêm olaf y grŵp yn erbyn Ffiji yng Nghaerwysg ar 6 Medi.
Gall yr eilydd Gwenllian Pyrs ennill ei 50fed cap o’r fainc.
Fe fydd y prop Maisie Davies a’r bachwr Molly Reardon yn ymuno â Sisilia Tuipulotu yn y rheng flaen.
Keira Bevan a Lleucu George fydd yr haneri unwaith eto.
Courtney Keight a Carys Cox fydd y canolwyr gyda Jasmine Joyce-Butchers, Lisa Neumann ar yr esgyll gyda Nel Metcalfe yn parhau fel cefnwr.
Mae disgwyl i Branwen Metcalfe, 18,ennill ei chap cyntaf o’r fainc yn y rheng ôl.Mae hi’n ymuno â’i chwaer Nel yn y garfan ar gyfer y gêm.
Fe ddechreuodd y chwiorydd a Gwenllian Pyrs eu gyrfaoedd gyda Chlwb Rygbi Nant Conwy.
'Her fawr'
Dywedodd Sean Lynn: “Rydym wedi edrych yn ofalus ar ein hunain ac wedi cael sgyrsiau gonest am y perfformiad sydd ei angen arnom yn erbyn un o’r timau gorau yn y byd.
“Canada yw tîm rhif dau yn y byd ac un o’r ffefrynnau i ennill Cwpan y Byd ac rydym yn gwybod y byddant yn her fawr.
“Mae angen i ni ddod ag egni a balchder go iawn yn y crys ac mae’r ffocws drwy’r wythnos wedi bod arnom ni a’r hyn sydd angen i ni ei wneud i gynhyrchu perfformiad ddydd Sadwrn.
“Mae newidiadau wedi bod ac maent wedi’u gwneud oherwydd bod chwaraewyr wedi ennill y cyfle wrth ymarfer i chwarae mewn Cwpan y Byd.
“Dywedwyd wrth bob un o’r 23 chwaraewr a ddewiswyd i fod yn ddewr ac i beidio â difaru pan fyddant yn cerdded oddi ar y cae ddydd Sadwrn.
“Nid oes gennym unrhyw gamargraff o’r her sydd o’n blaenau, ond mae hyn i gyd yn ymwneud â ni a dangos beth mae’n ei olygu i chwarae dros Gymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd.”
Dyma’r garfan:
15 Nel Metcalfe (Gloucester/Hartpury)
14 Jasmine Joyce-Butchers (Bristol Bears)
13 Carys Cox (Ealing Trailfinders)
12 Courtney Keight (Sale Sharks)
11 Lisa Neumann (Harlequins)
10 Lleucu George (Gloucester/Hartpury)
9 Keira Bevan (Bristol Bears)
1 Maisie Davies (Bristol Bears)
2 Molly Reardon (Gwalia Lightning)
3 Sisilia Tuipulotu (Gloucester/Hartpury)
4 Abbie Fleming (Harlequins)
5 Gwen Crabb (Gloucester/Hartpury)
6 Bryonie King (Gwalia Lightning)
7 Bethan Lewis (capten, Gloucester/Hartpury)
8 Georgia Evans (Saracens)
Eilyddion:
16 Kelsey Jones (Gloucester/Hartpury)
17 Gwenllian Pyrs (Sale Sharks),
18 Jenni Scoble (Gwalia Lightning)
19 Tilly Vucaj (Gwalia Lightning)
20 Branwen Metcalfe (Hartpury College)
21 Seren Lockwood (Gloucester/Hartpury)
22 Kayleigh Powell (Harlequins)
23 Kerin Lake (Gwalia Lightning)
Cymru v Canada, 30 Awst am 12:00
Llun: Asiantaeth Huw Evans