Cwpl yn euog o ladd eu babi newydd-anedig

Mark Gordon and Constance Marten

Mae'r cwpl Constance Marten a Mark Gordon wed eu cael yn euog o ladd eu babi newydd-anedig, ar ôl i'r ddau ddiflannu a theithio ar hyd a lled Lloegr yn 2023. 

Aeth Marten, 38 oed a Gordon, 51 oed, ar ffo gyda'u merch fach Victoria ar ôl i'w pedwar plentyn arall gael eu rhoi mewn gofal. 

Bu'r heddlu yn ceisio chwilio amdanyn nhw ar ôl i'w car fynd ar dân ar draffordd ger Bolton, Gogledd Lloegr.

Teithiodd y ddau ar hyd a lled Lloegr, cyn cysgu mewn pabell yn y South Downs yn ne ddwyrain Lloegr, lle bu farw eu babi Victoria.

Ar ôl bod ar ffo am saith wythnos, cafodd Constance Marten a Mark Gordon eu harestio yn Brighton, Dwyrain Sussex.

Wedi chwilio mawr amdani, daeth yr heddlu o hyd i gorff Victoria, yng nghanol sbwriel mewn bag archfarchnad, mewn sied gerllaw. 

Doedd hi ddim yn bosibl darganfod sut yn union y bu hi farw, oherwydd cyflwr ei chorff.  

Yn ôl yr erlyniad, mae'n bosibl iddi farw o hypothermia, oherwydd yr oerfel ac amodau llaith yn y babell, neu fe gafodd ei mygu.   

Roedd Marten a Gordon wedi dadlau mai damwain drasig oedd marwolaeth eu merch, ar ôl i Marten syrthio i gysgu arni.  

Ond yn yr ail achos yn eu herbyn ddydd Llun, dyfarnodd y rheithgor yn unfrydol eu bod yn euog o ddynladdiad.

Cefndir treisgar 

Yn yr achos cyntaf y llynedd, cafodd y cwpl eu dyfarnu'n euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, celu genedigaeth plentyn a chreulondeb tuag at blentyn. 

Yn ystod yr achos cyntaf yn 2024, chafodd y rheithgor ddim gwybod am orffennol treisgar Mark Gordon. 

Cafodd hynny ei ddatgelu yn rhannol yn yr ail achos. 

Yn 1989, pan yn 14 oed, cafodd dynes ei chadw yn erbyn ei hewyllys gan Gordon yn Florida, am fwy na phedair awr. Cafodd ei threisio ganddo tra roedd yn cario cyllell.

O fewn mis, aeth i mewn i dŷ arall a churo person.  

Cafodd Gordon, a symudodd o Birmingham i America gyda'i fam pan yn 12 oed, ei ddedfrydu i garchar am 40 mlynedd cyn cael ei ryddhau wedi iddo dreulio 22 mlynedd o dan glo.

Ymosodiad yng Nghaerfyrddin 

Yn 2017,  cafodd Gordon ei ddyfarnu'n euog o ymosod ar ddwy blismones mewn uned famolaeth yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin, lle rhoddodd Constance Marten enedigaeth i'w plentyn cyntaf o dan enw ffug.   

Chafodd aelodau'r rheithgor ddim gwybod fod Gordon hefyd o dan amheuaeth yn 2019, pan gafodd Marten ei hanafu yn ei stumog.

Wedi marwolaeth eu merch Victoria, cafodd y diffynyddion eu gweld ar gamerau cylch cyfyng yn chwilio am fwyd mewn biniau, er i Marten dderbyn miloedd o bunnau o gronfa ariannol, ac roedd ganddi £19,000 yn ei chyfrif banc. 

Cafodd Marten a Gordon eu harestio yn Brighton ar 27 Chwefror 2023, ond fe wrthododd y ddau â datgelu lle roedd eu plentyn.   

Bydd y ddau yn cael eu dedfrydu ar 15 Medi. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.