
Teulu dyn o Wynedd a fu farw ym Malta yn 'byw mewn hunllef'
Teulu dyn o Wynedd a fu farw ym Malta yn 'byw mewn hunllef'
Mae teulu dyn 25 oed o Wynedd a fu farw ym Malta yr wythnos diwethaf wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn “byw mewn hunllef”.
Roedd Kieran Thomas Hughes, 25, yn aros yn Triq Spinola, St Julian's, ac mae'n ymddangos iddo syrthio oddi ar falconi mewn gwesty.
Roedd o ar wyliau gyda’i ffrindiau.
Dywedodd ei dad, Alan Hughes "fod y sefyllfa yn anghredadwy."
"Roedd o’n fab ac yn efaill arbennig," meddai.
Roedd Kieran yn byw yn Nant Gwynant ac yn gweithio fel peiriannydd meddalwedd ym mharc gwyddoniaeth M-SParc ym mhentref Gaerwen, Ynys Môn.
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon, bu hefyd yn astudio peirianneg ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r teulu yn awyddus i bobol ei gofio fel person "hapus, cariadus, llawn bywyd."
Ychwanegodd mai eu blaenoriaeth rwan ydi "cydweithio efo’r awdurdodau yn Malta er mwyn dod a Kieran adra yn ôl i Gymru."

Cafodd heddlu Malta eu galw i Westy Cavalieri Art yn nhref St Julian’s toc wedi 4.00 fore Gwener diwethaf.
Ar ôl i’r heddlu gyrraedd, cyhoeddwyd ei fod o wedi marw yn y fan a’r lle.
Does dim manylion pellach am y digwyddiad.
Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi bod yn mewn cyswllt cyson â’r teulu wrth iddyn nhw aros am ragor o wybodaeth.
Dywedodd: "Mae’r teulu mewn galar difrifol ar hyn o bryd. Mae’n ddigwyddiad bron fedra’ rhywun ddim dechrau meddwl beth sy’n mynd trwy meddyliau nhw, beth sy’n mynd trwy calonnau nhw. Ond yng nghanol eu galar, ma’ nhw isio diolch i’r cannoedd o bobl sydd ‘di cysylltu â nhw.
"Ma’ nhw ‘di cael cannoedd o negeseuon yn cydymdeimlo â nhw.
"Ac yr hyn sy’n amlwg oedd faint o bobl oedd yn meddwl y byd o Kieran.
"Mi oedd o’n amlwg bod ‘na yrfa ddisglair iawn o’i flaen o, ac i feddwl bod hyn oll wedi ei golli, mae yng nghalon i a dwi’n siwr cymaint o bobl eraill yn mynd allan i deulu Kieran Hughes."
Mewn datganiad brynhawn Llun, dywedodd Heddlu’r Gogledd “Rydym yn cynorthwyo i gefnogi teulu'r gŵr ifanc, ac mewn cyswllt â'r swyddfa dramor.”
“Mae'r crwner hefyd wedi cael gwybod.”
Mae Heddlu Malta yn parhau i ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.
Ychwanegodd Alan Hughes fod y teulu'n hynod o ddiolchgar am bob neges a chymorth mae’r teulu wedi ei dderbyn, gan ddweud fod cefnogaeth y "gymuned o’u cwmpas wedi bod yn anhygoel."