Miloedd o swyddi siopau Poundland yn y fantol wrth i'r cwmni alw am weinyddwyr
Mae miloedd o swyddi yn siopau Poundland yn y fantol wedi i'r cwmni gyflwyno cais i benodi gweinyddwyr.
Mae dogfennau llys yn dangos bod y cwmni, sy'n cyflogi 12,000 o staff ar hyd a lled y DU, wedi cyflwyno bwriad i benodi gweinyddwyr brynhawn Iau.
Fe fyddai hyn yn rhoi saib o 10 diwrnod gwaith gan gredydwyr y busnes i sicrhau cytundeb i'w achub.
Mae ymgynghorwyr yn parhau i gynnal trafodaethau gyda rhai sydd â diddordeb mewn prynu'r cwmni, gan gynnwys ei siopau.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Poundland, Barry Williams: “Er gwaethaf ymdrechion enfawr, nid yw wedi bod yn bosibl i ddod o hyd i gynnig derbyniol ar gyfer y busnes cyfan.
“Ond, mae'r broses wedi denu sawl gweithredwr busnesau manwerthu sydd wedi gwneud cynigion ffurfiol.
"Gyda'i gilydd, mae'r rhain yn cwmpasu rhan sylweddol o'r busnes, ac rydym yn credu eu bod yn cynnig y rhagolygon gorau sydd ar gael i gyfranddalwyr, credydwyr ac i gadw swyddi.
“Rydym yn cydnabod bod unrhyw broses werthu yn creu ansicrwydd, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd economaidd heriol yn y DU.”
Ychwanegodd y bydd y cwmni yn gweithio’n agos gyda’r ymgynghorwyr i “sicrhau’r canlyniad gorau posib”.
Ar hyn o bryd, mae Poundland yn rhedeg tua 600 o siopau ar draws y DU.
Y gred yw bod bod CDS Superstores (perchennog Wilko a The Range), Fortress (perchennog Poundstretcher) a Modella (perchennog TG Jones) i gyd â diddordeb mewn prynu rhannau o fusnes Poundland.
Ond mae'n annhebygol y bydd y cytundebau'n cynnwys pob un o siopau Poundland, ac mae'n debygol y bydd rhai swyddi'n cael eu heffeithio.
Llun: PA