Teyrnged teulu i ddyn 'direidus' 43 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngwent dydd Sadwrn wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd Craig Assirati, neu ‘Boney’ i’w ffrindiau, ei ddisgrifio gan ei wraig Eloise fel “fy enaid hoff cytûn a’m ffrind gorau.”
Mae ei rieni wedi ei ddisgrifio fel “mab direidus, drygionus” y maen nhw’n ei garu “mwy na dim”.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Hafod-yr-Ynys ger Pont-y-pŵl tua 18.15 ar 24 Hydref yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng dau gar - Audi A5 du a Volkswagen ID5 du.
Bu farw Mr Assirati, oedd yn 43 oed, yn y fan a'r lle.
Ychwanegodd teyrnged ei deulu ei fod wedi "byw bywyd i’r eithaf" ac roedd "yn caru ei deulu a’i ffrindiau yn fawr, a byddai yno ar unwaith i unrhyw un oedd ei angen."
“Roedd yn frwd iawn am feiciau, cwadiau, ceir, unrhyw beth gydag olwynion, a gwyliau llawn antur.
"Byddai’n barod i wneud unrhyw weithgaredd y gallwch chi feddwl amdani. Roedd yn byw bywyd yn llawn brwdfrydedd ac yn gwneud y mwyaf o bob eiliad."
Mae ei deulu’n parhau i dderbyn cymorth gan swyddogion arbenigol wrth i ymholiadau barhau.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad gysylltu â Heddlu Gwent, naill ai drwy ffonio 101 neu ar wefan Heddlu Gwent, gan ddefnyddio cyfeirnod 2600348750.