'Annerbyniol': Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn wynebu diffyg ariannol o £62 miliwn
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn wynebu diffyg ariannol sylfaenol o £62.1 miliwn, yn ôl adroddiad mewnol newydd.
Mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi disgrifio dirywiad yn sefyllfa ariannol a pherfformiad y bwrdd iechyd fel rhywbeth "annerbyniol ac na ellir ei gefnogi".
Mae’r adroddiad, a gafodd ei baratoi ar gyfer cyfarfod Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad y bwrdd iechyd ddydd Mawrth, hefyd yn rhybuddio bod y rhagolygon ariannol yn “debygol o waethygu” oni bai bod gwelliant sylweddol mewn perfformiad a chamau cadarn i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Mae’r diffyg sylfaenol yn adlewyrchu’r bwlch rhwng incwm a gwariant y bwrdd.
Mae'r ffigur yn sylweddol uwch na'r £40.8 miliwn oedd yn cael ei ragweld yng nghynllun ariannol blynyddol y bwrdd iechyd ar gyfer 2026–27.
Mae'r bwrdd iechyd, sy'n darparu gwasanaethau yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, wedi gosod targed o arbed £42.8 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Ond hyd yma, dim ond £32.8 miliwn o arbedion sydd wedi'u nodi, gyda'r mwyafrif ohonynt yn fesurau dros dro yn hytrach nag arbedion parhaol.
Fe wnaeth Newyddion S4C ofyn i Lywodraeth Cymru am ei hymateb i'r adroddiad.
Pwysau ar y gyllideb
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na ddylai diffyg ariannol y bwrdd iechyd fod yn fwy na £22.1 miliwn eleni, sef maint y diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Ond mae'r bwrdd iechyd wedi cynllunio ar gyfer diffyg o £41 miliwn, gyda'r rhagolygon diweddaraf yn awgrymu y gallai'r ffigur ostwng i £37.5 miliwn pe bai camau ychwanegol i dorri gwariant yn llwyddo. Nid yw’r cynlluniau ar eu cyfer wedi’u cadarnhau’n llawn.
Hyd yn oed o lwyddo yn hynny o beth, byddai hynny'n dal i fod £15.4 miliwn yn uwch na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl.
Costau
Ymhlith y prif bwysau ariannol sy'n wynebu'r bwrdd iechyd mae costau cyflogi staff asiantaeth a meddygon locwm i lenwi swyddi gwag a darparu gwasanaethau pan fo staff yn absennol.
Mae cynnydd yng nghostau meddyginiaethau, gofal iechyd parhaus, gwasanaethau radioleg a llawdriniaethau hefyd yn cyfrannu at y pwysau.
Mae'r adroddiad yn nodi bod y bwrdd iechyd yn ceisio lleihau gwariant ar staff dros dro drwy gryfhau trefniadau recriwtio a rheoli rota.
Hefyd mae cyfyngiadau recriwtio ar waith ar gyfer rhai swyddi gweinyddol a rheoli.
Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda o dan oruchwyliaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru oherwydd ei broblemau ariannol, gyda'r nod o sicrhau nad yw'n gwario mwy o arian nag y mae'n ei gael erbyn 2027–28.
Mae hynny'n gysylltiedig â £26 miliwn o gyllid parhaus amodol.
Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio bod dibyniaeth y bwrdd iechyd ar arbedion dros dro yn ei gwneud yn anodd cyflawni'r nod hwnnw.
Mae hefyd yn nodi y bydd angen cymorth ariannol ychwanegol i sicrhau bod digon o arian parod ar gael tua diwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth 2027.
Mae cynllun gweithredu chwe wythnos ar waith i geisio gwella'r sefyllfa, a bydd y bwrdd iechyd yn adolygu’r cynnydd ar 26 Tachwedd.
Fe fydd yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru ddechrau Rhagfyr am unrhyw newidiadau i’r rhagolygon ariannol.