Buddsoddi £2.5m mewn parc gwyddoniaeth ym Môn yn 'gyfle i greu swyddi cyffrous' yn ôl economegydd

Dr Edward Jones ac MSParc

Mae economegydd o ogledd Cymru wedi dweud y gall buddsoddi £2.5 miliwn mewn parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn helpu i greu “swyddi cyffrous” ym meysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Daw sylwadau Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi y bydd yn buddsoddi £2.5 miliwn i ehangu M-SParc ger Gaerwen.

Mae’r arian, sy’n amodol ar achos busnes, yn rhan o gyfres o fuddsoddiadau penodol yng Nghymru a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ddydd Mercher.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yr arian yn darparu gofod ychwanegol ym Mharc M-SParc a chefnogaeth i fusnesau bach a chanolig.

Dywedodd Dr Jones wrth Newyddion S4C ei fod yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yn arwain at fwy o gyfleoedd i bobl ifanc.

“Mae’n newyddion da oherwydd mae'n dangos yr hyder sydd gan y llywodraeth yn y parc gwyddoniaeth,” meddai.

“Y gobaith yw bydd o yn creu swyddi i bobl ifanc, yn enwedig yn y maes gwyddoniaeth a thechnoleg - ac y byddan nhw’n swyddi cyffrous.

“Mae'n caniatáu i bobl ifanc i weithio efo technoleg newydd ac arloesi hefyd.”

Parc Gwyddoniaeth Prifysgol Bangor yw M-SParc sy’n helpu busnesau arloesol i dyfu. Mae campws y ganolfan wedi'i leoli ger Gaerwen, ac mae'n rhan o ardal Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Image
Adeilad newydd M-SParc
Mae disgwyl i adeilad Egni agor yn haf 2027, gan ddarparu 1,700m² o ofod busnes ac ymchwil newydd.

Dywedodd M-SParc nos Fercher y bydd y “buddsoddiad sylweddol” gan Lywodraeth y DU yn cefnogi cyfleusterau arloesi newydd, twf busnes a chyfleoedd STEM i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru.

Bydd y buddsoddiad yn helpu i osod cyfarpar arbenigol yn adeilad Egni, sef ail adeilad M-SParc, gan gynnwys canolfan STEM bwrpasol.

Yn ôl y ganolfan, bydd hyn yn “cryfhau gallu M-SParc” i gefnogi diwydiant ac arloesi, ac i gefnogi twf mentrau bach a chanolig.

Ers agor yn 2018, mae M-SParc wedi creu mwy na 180 o swyddi a hwyluso dros 100 o interniaethau a phrofiadau gwaith, yn ôl rheolwyr y ganolfan, sy'n dweud bod y safle wedi denu £7 miliwn o fuddsoddiad i’r rhanbarth.

Cyfleoedd i fusnesau lleol?

Daw’r cyhoeddiad wedi nifer o ddatblygiadau mawr ar Ynys Môn, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd ar safle hen atomfa Wylfa.

Cwmni Rolls-Royce sydd wedi cael y cytundeb i adeiladu yr adweithyddion modiwlaidd bach neu SMRs (small modular reactors) ar y safle mewn prosiect gwerth £2.5 biliwn dan yr enw Gwyndod.

Mae M-SParc eisoes wedi dweud bod Egni, ail adeilad y safle, wedi’i gynllunio i helpu busnesau i fanteisio ar fuddsoddiad mawr ym meysydd ynni, gweithgynhyrchu uwch a thechnoleg yn y rhanbarth.

Er ei fod yn croesawu’r datblygiadau, mae Dr Jones yn gobeithio mai busnesau yn yr ardal fydd yn elwa fwyaf.

“Y gobaith ydy nid yn unig bydden ni'n gweld y budd economaidd yn dod o'r prosiectau eu hunain, ond y bydd busnesau lleol yn elwa ohonyn nhw,” meddai.

“A dwi'n meddwl dyna lle mae M-SParc yn chwarae rôl pwysig iawn - bydd o'n hwb lle mae busnesau yn dod at ei gilydd i gymryd mantais o'r cyfleoedd yna.”

Mae’n credu bod angen mwy o swyddi sy’n defnyddio sgiliau gwyddoniaeth a thechnoleg yn yr ardal.

“Yn anffodus mae yna brinder o'r math yna swyddi yn yr ardal,” meddai. “Y gobaith yw bydd y buddsoddiad yma'n helpu i greu'r math yna o swyddi.”

Image
Dr Edward Jones
Dr Edward Thomas Jones o Brifysgol Bangor

Ond mae Dr Jones yn cydnabod bod elfen o ansicrwydd, gan fod yn rhaid i M-SParc ddatblygu achos busnes er mwyn hawlio’r £2.5 miliwn.

“Hefo’r math yma o broses, mae ‘na o hyd rhywfaint o ansicrwydd,” meddai.

“Ond fy nheimlad i yw bod M-SParc wedi profi tro ar ôl tro bod nhw yn gallu datblygu achosion busnes da a cryf.

“Felly, 'swn i yn synnu os byddai'r arian yma ddim yn dod.”

Ychwanegodd: “Beth sy'n bwysig rwan yw bod ni yn canolbwyntio ar yr achos busnes i wneud yn siŵr bod yr arian yn dod i Sir Fôn.

“Ac yna bod hwnna'n cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithiol a chadarnhaol i gael effaith bositif ar y gymuned a'r economi lleol.”

Image
M-SParc

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc, fod y buddsoddiad yn “bleidlais sylweddol o hyder yn ein huchelgeisiau”.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Lywodraeth y DU am gydnabod y cyfle i fuddsoddi mewn arloesedd, busnesau a sgiliau yn y rhanbarth,” meddai.

"Wrth i ni edrych ymlaen at agor Egni, ein hail adeilad, yn haf 2027, mae'r buddsoddiad hwn yn caniatáu i ni edrych hyd yn oed ymhellach ymlaen at ddatblygu pellach ar ein safle.

“Yn hanfodol, mae'r buddsoddiad hwn hefyd yn ymwneud â'r genhedlaeth nesaf. Trwy ddatblygu canolfan STEM bwrpasol, gallwn ysbrydoli pobl ifanc a helpu i sicrhau bod y sgiliau a'r cyfleoedd a grëir gan fuddsoddiad yn ein rhanbarth o fudd i'n cymunedau a’n pobl ifanc am ddegawdau i ddod.”

Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae'r cyllid hwn gan Lywodraeth y DU yn fuddsoddiad yn y sgiliau a'r seilwaith sydd eu hangen i greu mwy o swyddi o ansawdd uchel ar Ynys Môn.

“Mae M-SParc eisoes wedi'i sefydlu fel lle mae ymchwil a busnes yn dod at ei gilydd i sbarduno twf economaidd. 

“Bydd y buddsoddiad hwn o £2.5 miliwn gan Lywodraeth y DU yn gwthio hynny ymhellach, gan adeiladu ar y cyfleoedd a ddarperir gan Borthladd Rhydd Ynys Môn a'n buddsoddiad o £2.5bn mewn niwclear.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.