Dyn yn ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ladd babi pum mis oed

Jensen-Lee Dougal

Mae dyn 28 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ladd babi pum mis oed.

Mae Thomas Morgan o Orseinon yn Abertawe wedi ei gyhuddo o ladd Jensen-Lee Dougal yng Nghlydach ar 30 Mawrth y llynedd.

Ymddangosodd yn Llys y Goron Abertawe trwy gyswllt fideo fore Llun.

Siaradodd i gadarnhau ei enw yn unig yn ystod y gwrandawiad byr.

Ni chafodd unrhyw fanylion o'r achos yn ei erbyn eu trafod yn y llys.

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC y bydd gwrandawiad pellach ple a pharatoi ar 5 Medi.

Bydd yr achos yn cychwyn ar 6 Ionawr 2026.

Fe fydd Mr Morgan yn cael ei gadw yn y ddalfa am y tro.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.