Undeb Rygbi Cymru i drafod cwtogi nifer y rhanbarthau i ddau neu dri
Undeb Rygbi Cymru i drafod cwtogi nifer y rhanbarthau i ddau neu dri
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) wedi cadarnhau eu bod yn ystyried cwtogi nifer y rhanbarthau rygbi proffesiynol yng Nghymru i ddau neu dri.
Mewn datganiad ddydd Llun, cadarnhaodd yr undeb eu bod yn dechrau ar gyfnod ymgynghori gyda chlybiau a rhanddeiliaid ynglŷn â dyfodol y gamp yng Nghymru.
Yn y datganiad, dywedodd yr Undeb nad yw’r “drefn bresennol yng Nghymru, sy’n cynnwys y timau cenedlaethol a’r clybiau proffesiynol… yn sicrhau llwyddiant cyson ar y maes chwarae.”
“Yn ystadegol dyma’r tymor gwaethaf i dîm hŷn y dynion ei brofi erioed,” ychwanegodd llefarydd, gan gyfeirio at rediad o 18 o golledion, a ddaeth i ben ddydd Sadwrn yn erbyn Japan.
O ganlyniad, mae URC yn ystyried rhoi “strategaeth fwy radical” ar waith, sydd yn cynnwys ystyried cwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar, i dri neu ddau, o’r tymor 2027/2028 ymlaen.
Dywedodd yr Undeb mai nod unrhyw ailstrwythuro yw i “roi hwb i’r academïau, Super Rygbi Cymru a’r Her Geltaidd, y clybiau proffesiynol a thimau cenedlaethol y dynion a’r menywod.”
Daw’r cyhoeddiad wedi i ddau o’r rhanbarthau, Scarlets a Gweilch, beidio ag arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol Undeb Rygbi Cymru cyn y dyddiad cau ym mis Mai.
Yn ymateb i’r datblygiad ym mis Mai, fe ddywedodd yr Undeb y byddai’n rhoi cyfnod rhybudd o ddwy flynedd i ddod â’r cytundeb ariannu presennol i ben, gyda'r bwriad o dechrau gyda strwythur newydd o Fehefin 2027.
'Pellgyrhaeddol'
Yn eu datganiad ddydd Llun, cyhoeddodd yr Undeb y byddai’r ymgynghoriad yn cael ei gynnal gydol mis Awst a Medi, cyn i’r bwrdd ei gymeradwyo ym mis Hydref.
Fel rhan o’r trafodaethau, fe fydd URC hefyd yn ystyried cynyddu buddsoddiad yn Super Rugby Cymru, sef ail haen rygbi dynion, a chreu canolfan genedlaethol i “ddatblygu chwaraewyr elît, eu hyfforddwyr a’u staff cynorthwyol.”
Dywedodd llefarydd ar ran URC: “Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi heddiw eu bod mewn trafodaethau ffurfiol gyda phedwar clwb proffesiynol Cymru – a rhanddeiliaid eraill – fydd yn arwain at ail-strwythuro’r gêm ddomestig broffesiynol erbyn tymor 2027/28.
“Mae llawer o waith trylwyr wedi ei wneud yn ystod y 18 mis diwethaf – sydd wedi cynnwys ymgynghori gyda’r pedwar clwb proffesiynol ar hyd y daith.
“Canlyniad hynny yw bod Undeb Rygbi Cymru yn ystyried strategaeth fwy radical – er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleoedd buddsoddi – ac ail-drefnu holl strwythur rygbi yng Nghymru. (Mae opsiynau eraill yn cael eu hystyried yn ogystal.)
“Mae Bwrdd Undeb Rygbi Cymru eisoes wedi datgan yn gyhoeddus na fydd parhad i’r drefn o ariannu pedwar clwb proffesiynol yng nghamp y dynion yn gyfartal.
“Byddai’r opsiwn pellgyrhaeddol yn rhoi hwb i’r academïau, Super Rygbi Cymru a’r Her Geltaidd, y clybiau proffesiynol a thimau cenedlaethol y dynion a’r menywod.
“Er mwyn penderfynu pa newidiadau y dylid eu gwneud bydd trafodaethau ac ymgynghori agored a thryloyw gyda’r holl randdeiliaid perthnasol. Bydd yr holl adborth a gesglir yn ystod y broses ymgynghori yn hynod werthfawr.”