Y Gweilch a’r Scarlets ‘ddim yn gallu arwyddo cytundeb Undeb Rygbi Cymru am y tro’
Mae rhanbarthau y Gweilch a’r Scarlets wedi dweud nad ydyn nhw yn gallu arwyddo Cytundeb Rygbi Proffesiynol Undeb Rygbi Cymru am y tro.
Daw wedi i’r undeb gadarnhau bod Caerdydd a'r Dreigiau wedi arwyddo y cytundeb PRA25 ddoe.
Bydd y cytundeb, sy'n cynnwys cynnydd mewn cyllideb o hyd at £6.5m o'i gymharu â'r £4.5m presennol, yn parhau nes 2029.
Ond dywedodd y Gweilch a’r Scarlets eu bod nhw “wedi gofyn i Undeb Rygbi Cymru am sicrwydd ac eglurder na fydd eu perchnogaeth o Gaerdydd o fantais i Gaerdydd ac yn anfantais i'r clybiau annibynnol”.
Fe wnaeth URC gamu i mewn ar ôl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf.
Dywedodd y Gweilch a’r Scarlets ddydd Sadwrn: “Mae perchnogaeth Undeb Rygbi Cymru o Rygbi Caerdydd yn newid sylweddol yn nhirwedd rygbi proffesiynol yng Nghymru.
"Er budd hirdymor rygbi yng Nghymru, rydym am sicrhau bod y model yn deg, yn gyfartal ac yn gynaliadwy wrth symud ymlaen.
"Rydyn ni wedi gwneud y cais [i URC] er mwyn sicrhau eglurder, proffesiynoldeb, tegwch a chynaliadwyedd a dyfodol hirdymor pob tîm proffesiynol yng Nghymru.
“Rydym yn parhau i drafod gyda'r WRU ar fater tegwch ac yn gobeithio cael canlyniad cadarnhaol yn y dyfodol agos.
“Nes bydd gennym fwy o eglurder, ar hyn o bryd nid ydym yn gallu llofnodi'r PRA25.”
Roedd URC wedi rhybuddio y rhanbarthau y byddai eu dyfodol yn y fantol os nad oedden nhw’n arwyddo y cytundeb erbyn 8 Mai.
Ddydd Gwener dywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney ei bod hi’n “falch iawn o gadarnhau” bod Clwb Rygbi Caerdydd a'r Dreigiau wedi cytuno.
"Bydd y PRA25 yn darparu sylfaen sefydlog i alluogi llwyddiant parhaus ar y cae i Gaerdydd a'r Dreigiau a bydd yn cefnogi cynnydd cyffredinol y gêm broffesiynol yng Nghymru yn sylweddol,” meddai.
Llun: Huw Evans.