Sir y Fflint: Arestio dyn ar ôl i ddyn arall ddioddef anafiadau difrifol ar Noswyl Nadolig

26/12/2025
Broad Oak, Cei Connah

Mae dyn yn ei 20au wedi dioddef anafiadau “difrifol” yn dilyn ymosodiad mewn tafarn yn Sir y Fflint ar Noswyl Nadolig. 

Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa, medd Heddlu’r Gogledd. 

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhafarn y Broad Oak, Cei Connah am tua 19.30 nos Fercher. 

Mae’r llu bellach yn apelio ar bobl a oedd yn yr ardal ac sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw. 

Maen nhw’n apelio ar dystion i gysylltu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod C198737.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.