Gemau'r Gymanwlad: Ruby Evans yn cipio medal aur gyntaf Cymru

Ruby Evans (Reuters)

Mae’r fabolgampwraig Ruby Evans wedi ennill medal aur gyntaf Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2026.

Fe enillodd Evans, sy'n 19 oed, yng nghystadleuaeth y llawr, gyda sgôr o 13.500.

Daeth Abi Martin o Loegr yn ail gyda sgôr o 13.333, a Shantae-Eve Amankwaah o Loegr yn hawlio’r fedal efydd.

Dywedodd Ruby Evans yn dilyn ei buddugoliaeth: "Rwy'n hapus iawn ac yn falch bod o wedi'i gyflawni. Dwi'n teimlo fel fy mod wedi dod yma gyda dicter. 

"Ro'n i'n gwybod fy mod i eisiau medal ond mi enillais yr aur a dwi'n hapus iawn dros fy hunain."

Daw buddugoliaeth Ruby Evans, sy'n dod o Gaerdydd, wedi iddi hi orffen yn seithfed yn gynharach ddydd Mawrth yng nghystadleuaeth y trawst cydbwysedd.

Evans oedd y Gymraes gyntaf i orffen ar frig Pencampwriaethau Gymnasteg Artistig Prydain ym mis Mawrth eleni.

Daeth y fedal aur gyntaf yn ystod y chweched diwrnod o gystadlu, yn dilyn dwy fedal arian a chwe medal efydd i athletwyr Cymru.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.