Y bocsiwr Joe Cordina o Gaerdydd yn gwadu ymosod ar ddyn arall
Mae'r bocsiwr o Gaerdydd, Joe Cordina, wedi gwadu ymosod ar ddyn arall y tu allan i orsaf betrol yn y brifddinas.
Fe wnaeth cyn-bencampwr bocsio'r byd ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, gan bledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad o ymosod.
Dywedodd Heddlu De Cymru yn flaenorol fod y cyhuddiadau mewn cysylltiad â digwyddiad y tu allan i Orsaf Betrol Pentwyn, Caerdydd, ar 27 Chwefror eleni.
Yn ystod y gwrandawiad byr, fe wnaeth Cordina, 34 oed, ymddangos yn y doc ynghŷd â dyn arall o'r enw Jamie O’Brien, 32 oed, o Bentwyn.
Mae O'Brien hefyd wedi’i gyhuddo o ymosod mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Clywodd y llys yn flaenorol fod y troseddau honedig y mae’r ddau ddyn wedi cael eu cyhuddo o'u cyflawni "yn erbyn ei gilydd".
Ddydd Mawrth, dywedodd Nadeem Majid, a oedd yn cynrychioli Cordina, fod yr ail gyhuddiad o ymosod yn ei erbyn "yn deillio o un digwyddiad parhaus".
Ni wnaeth O’Brien gyflwyno ple yn ystod y gwrandawiad.
Mae'r Barnwr Rhanbarthol Charlotte Murphy wedi nodi 13 Hydref fel dyddiad achos llys ar gyfer Cordina.
Roedd disgwyl i Cordina focsio am deitl pwysau ysgafn WBO yn yr Unol Daleithiau ar 4 Gorffennaf, ond cafodd ei gais am fisa ei wrthod.
Llun: PA