Y cyflwynydd Richard Hammond yn euog o oryrru ddwywaith mewn tair wythnos
Mae cyn-gyflwynydd Top Gear, Richard Hammond, wedi cael dirwy o £999 gan lys ar ôl cael ei ddal yn gyrru'n rhy gyflym ddwywaith o fewn tair wythnos mewn dau o'i geir moethus.
Roedd y cyflwynydd teledu, sy'n 56 oed, yn gyrru Porsche pan dorrodd y terfyn cyflymder ar 2 Rhagfyr y llynedd, ac fe gafodd ei ddal eto 20 diwrnod yn ddiweddarach yn gyrru'n rhy gyflym mewn car Bentley y tro hwn.
Cyflwynodd Heddlu Gorllewin Mersia ddau achos erlyn yn erbyn Hammond, gan ddarparu delweddau o gamerâu cyflymder ohono'n gyrru'r ceir yn Sir Henffordd fel tystiolaeth i brofi'r troseddau.
Mae dogfennau llys yn datgelu fod yr heddlu wedi treulio wythnosau yn anfon llythyrau i dai sy'n rhan o bortffolio eiddo Richard Hammond mewn ymgais i ddod o hyd iddo.
Anfonodd yr heddlu wybodaeth am yr erlyniad i nifer o dai Mr Hammond, gan gynnwys i gastell rhestredig Gradd II* yn Sir Henffordd a brynwyd gan Hammond yn 2012.
Cafodd llythyr ei anfon hefyd i ystâd fferm werth £1 miliwn ger Henffordd, ond cafodd y llythyrau eu hanfon yn ôl gyda'r nodyn yn dweud fod "y derbynnydd wedi symud".
Yn y pen draw, daeth yr heddlu o hyd i Hammond drwy anfon llythyr i'w blasty gwerth £2 miliwn ger y Fenni yn ne Cymru.
Roedd dros 30 o gerbydau wedi eu cofrestru i'w enw yno ar y pryd.
Pleidiodd y cyflwynydd - fu'n cyflwyno Top Gear gyda Jeremy Clarkson a James May rhwng 2002 a 2015 cyn i'r tri lansio The Grand Tour ar Amazon Prime - yn euog trwy ei gyfreithwyr i ddau gyhuddiad o yrru'n rhy gyflym.
Yn Llys Ynadon Telford yr wythnos diwethaf, cafodd saith pwynt cosb ar ei drwydded.
Gorchmynnodd yr Ynad Ann Minton iddo dalu cyfanswm o £1,771, yn cynnwys dwy ddirwy o £333 a £666, £240 mewn costau a gordaliadau dioddefwyr yn cyfateb i gyfanswm o £532.
Bu bron i Hammond - a gafodd y llysenw 'The Hamster' gan ei gyd-gyflwynwyr Top Gear - farw mewn damwain car a oedd yn teithio ar gyflymder o 320mya yn 2006 wrth ffilmio'r gyfres boblogaidd.