Caerfyrddin: Dymchwel adeilad siop yn y dref i ddatblygu maes parcio
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i ailddatblygu safle Parc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd y cyngor fod y cynigion yn cynnwys dymchwel hen adeilad siop Wilko, sydd “wedi cyrraedd diwedd ei oes o ran defnydd, ac ailddatblygu'r maes parcio cyfagos”.
Ychwanegodd y cyngor: “Bydd y cynlluniau'n sicrhau bod y safle'n bodloni safonau parcio modern, yn ei wneud yn addas i'r diben ac yn ei alluogi i gael ei ddefnyddio unwaith eto, a hynny er budd y dref.”
Mae'r cyngor yn berchen ar rydd-ddaliad safle Parc y Brodyr Llwyd ac wedi prynu'r lesddaliad yn 2024. Fe gaeodd siop Wilko yn 2023 ac roedd yr adeilad yn siop Tesco cyn hynny.
Costau
Dywedodd y cyngor y byddai wedi costio tua £1 miliwn i wneud yr adeilad yn addas i'w ddefnyddio eto, yn bennaf oherwydd y gwaith oedd ei angen ar y to.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth fod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer dymchwel a gwneud gwaith ar y maes parcio drwy Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd y Cynghorydd Evans: “Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo cynnwys y dyraniad cyllid o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor er mwyn galluogi'r gwaith i fynd rhagddo.
“Mae penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo ailddatblygu safle Parc y Brodyr Llwyd yn gam cyntaf pwysig o ran creu ased canol tref mwy deniadol sy'n diwallu anghenion modern.
“Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyflwyno Hysbysiad Dymchwel yn y dyddiau nesaf.
“Mae'r Cyngor Sir yn cynnal trafodaethau â phartïon sydd â diddordeb ynglŷn â'r defnydd o'r safle yn y dyfodol.”