Caerdydd: Arestio trydydd dyn wedi ymosodiad difrifol

Stryd Pentyrc

Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd ddechrau’r wythnos. 

Mae dyn 37 oed o’r Mynydd Bychan yn parhau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas gydag anafiadau all beryglu ei fywyd, wedi’r ymosodiad ddydd Llun. 

Cafodd Heddlu’r De eu galw i Stryd Pentyrch yn ardal Cathays am tua 18.15 nos Lun, 22 Rhagfyr. 

Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn yr ymosodiad. 

Cafodd dyn 51 oed o Fynachdy, Caerdydd ei arestio ddydd Gwener. Mae’n parhau yn y ddalfa gyda dyn 47 oed o Waunadda.

Mae dyn 60 o ardal Cathays wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae Heddlu’r De yn apelio ar unrhyw un all fod a delweddau CCTV neu dashcam o Ffordd Maindy, Stryd Pentyrch, Ffordd Whitchurch a Theras Catays rhwng 16.00 a 18.30 ddydd Llun.

Fe allai unrhyw un sydd â lluniau o’r fath gysylltu â’r llu drwy ddyfynnu’r cyfeirnod 2500404113.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.