Enwi un o'r dynion aeth ar goll wrth nofio yn y môr ar ddydd Nadolig

26/12/2025
Matthew Upham

Mae un o’r dynion aeth ar goll ar ôl mynd i nofio yn y môr yn Nyfnaint ar ddydd Nadolig wedi ei enwi. 

Mewn datganiad ar ei dudalen Instagram ddydd Gwener, dywedodd teulu Matthew Upham eu bod yn “dorcalonnus yn dilyn colled aelod annwyl o’n teulu… a gollwyd ar fore Nadolig.” 

“Mae Matthew wedi ei garu’n fawr iawn ac fe fydd colled ar ei ôl am byth.” 

Cafodd ymdrechion i ddod o hyd i ddau ddyn aeth ar goll wedi i nifer o bobl fynd i drafferthion yn y môr yn Nyfnaint ar ddydd Nadolig eu gohirio brynhawn ddydd Iau. 

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dref Budleigh Salterton yn ne-orllewin Lloegr am 10.25 ddydd Iau yn dilyn pryderon am bobl yn y môr yno. 

Cafodd nifer o bobl eraill eu hachub gan dderbyn triniaeth gan barafeddygon. Roedd rhai pobl hefyd wedi cael eu cludo i’r ysbyty fel rhagofal. 

Fe aeth dau ddyn yn eu 40au a 60au ar goll wedi’r digwyddiad. 

Brynhawn ddydd Iau fe gyhoeddodd Heddlu Dyfnaint a Chernyw fod ymdrechion chwilio gan wylwyr y glannau a'r RNLI wedi eu gohirio.

Ni lwyddodd y gwasanaethau brys i ddod o hyd i’r dynion. 

Roedd rhybudd melyn am wynt mewn grym mewn ardaloedd yn ne-ddwyrain Lloegr a Chymru ddydd Nadolig. 

Does dim rhybudd o’r fath wedi cael ei chyhoeddi ar gyfer dydd San Steffan ond mae heddluoedd wedi annog pobl i beidio â mynd i nofio yn y môr. 

'Gwirioneddol drasig'

Dywedodd Julia Robb sy’n byw yn yr ardal a oedd yn gwylio’r nofwyr yn y môr cyn i’r dynion fynd ar goll, bod y digwyddiad yn “erchyll.” 

Roedd y tywydd yn “oer a gwyntog iawn” ond roedd pobl yn mwynhau, meddai. 

Dywedodd bod y tonnau’n o leiaf “6 troedfedd o uchder, o leiaf,” a’i bod hi wedi sylweddoli bod rhywbeth o’i le ar ôl gweld hofrenyddion yn yr awyr. 

“Roedd e’n rhywbeth mor drist a ddigwyddodd ar fore a oedd wedi bod mor bositif. 

“Dwi jyst yn teimlo’n flin iawn i bawb a gafodd eu heffeithio. Fe fydd e’n syndod i’r gymuned gyfan.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Hayley Costar o Heddlu Dyfnaint a Chernyw ddydd Iau bod meddyliau’r llu yn “parhau’n gadarn gyda theuluoedd a ffrindiau’r ddau ddyn sydd ar goll ar hyn o bryd ac i bawb a allai fod wedi gweld y digwyddiad a chael eu heffeithio ganddo.”

Ychwanegodd mai digwyddiad “gwirioneddol drasig” oedd hwn.

'Cydymdeimlo'

Dywedodd Gwylwyr y Glannau EM eu bod wedi ymateb i adroddiadau o “bobl mewn trafferth” yn y môr yn ardal Budleigh Salterton ddydd Iau. 

Daeth timau achub Gwylwyr y Glannau o Exmouth a Beer i’r lleoliad, ynghyd â chychod achub RNLI o Exmouth, Teignmouth a Thorbay.

Roedd hofrenyddion hefyd yn rhan o’r ymdrechion, yn ogystal â’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans. 

Dywedodd y llefarydd fod chwilio Gwylwyr y Glannau wedi dod i ben am 17.00 ar ôl bod yn “chwilio drwy’r dydd.” 

Dywedodd llefarydd o’r RNLI eu bod wedi llwyddo i achub un person o’r môr ddydd Iau ond bod dau ddyn yn parhau ar goll. 

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda’r rheiny a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad, a theulu a ffrindiau’r ddau berson sydd ar goll.”

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans De-orllewin Lloegr eu bod wedi cael eu galw i’r lleoliad am 10.10 y bore yn dilyn adroddiadau am bobl wedi mynd i drafferthion yn y môr.  

Cafodd un person ei gludo i’r ysbyty ac fe gafodd dau berson arall eu trin yn y fan a’r lle. 

Cafodd nifer o ddigwyddiadau nofio eu canslo yn Nyfnaint a Chernyw ddydd Nadolig a dydd San Steffan oherwydd rhybuddion melyn am wyntoedd cryf yno.

Llun: Matthew Upham/Instagram

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.