Dyn 20 oed yn 'brwydro am ei fywyd' ar ôl cael ei saethu ar Ddydd Nadolig

Saethu yn Sheffield

Mae dyn 20 oed mewn cyflwr all beryglu ei fywyd wedi iddo gael ei saethu ar Ddydd Nadolig. 

Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn y digwyddiad yn ardal Darnall yn Sheffield, meddai Heddlu De Swydd Efrog ddydd Gwener. 

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd bod dyn 20 oed wedi cael ei saethu yn ei frest ddydd Iau. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Wilfred Drive am 23.27 nos Iau ac fe gafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty. 

“Mae’n parhau mewn cyflwr difrifol sydd yn peryglu ei fywyd,” meddai’r llefarydd. 

“Fe wnaeth swyddogion yr heddlu ddechrau weithredu ar frys er mwyn deall y sefyllfa ac fe gafodd pedwar o ddynion eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad yn fuan wedyn."

Mae’r pedwar ohonynt – sydd yn 20, 22, 28 a 29 oed – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Andy Knowles fod hwn yn sefyllfa erchyll gyda dyn yn “brwydro am ei fywyd” o ganlyniad. 

“Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau cadarn a phendant yn erbyn unrhyw un sy’n penderfynu ymwneud â thrais neu fod a drylliau anghyfreithlon. 

“Rydym yn gryfach gydag eich cymorth – cefnogaeth ein cymunedau.

Dywedodd ei fod hefyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi helpu swyddogion yr heddlu gyda’u hymchwiliadau hyd yma. 

Mae disgwyl i swyddogion aros yn yr ardal er lles y gymuned am y tro. 

Llun: Dave Higgens/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.