Y siop sglodion sy'n darparu prydau poeth am ddim i gannoedd ar ddydd San Steffan

Y siop sglodion sy'n darparu prydau poeth am ddim i gannoedd ar ddydd San Steffan

Ar ddiwrnod San Steffan fe fydd un siop sglodion yng Nghaerdydd yn bwydo cannoedd o bobl, a hynny am ddim.

Ers 2019 mae Victoria Fish Bar yn yr Eglwys Newydd wedi darparu bwyd i weithwyr y gwasanaethau brys, gofalwyr a'r digartref ar 26 Rhagfyr.

Fe fydd y siop ar agor rhwng 10:00 a 13:00 a bydd gwirfoddolwyr hefyd yn gyrru o gwmpas y ddinas yn dosbarthu prydau poeth.

Dywedodd un o weithwyr y siop, Jawad Nazakat bod y prosiect wedi dechrau er mwyn i'r siop sglodion "roi rhywbeth ‘nôl" i’r gymuned yn yr Eglwys Newydd.

"Fe wnaethon ni benderfynu gwneud hyn achos roedden ni eisiau rhoi rhywbeth 'nôl i'r gymuned," meddai wrth Newyddion S4C.

"Rydyn ni wedi derbyn cefnogaeth gan y gymuned am sawl blwyddyn, ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth iddyn nhw.

"Ac ar ben hynny rydyn ni wedi gweld y cynnydd mewn digartrefedd yng Nghaerdydd, felly fe wnaethon ni benderfynu ei fod yn amser da i gychwyn prosiect fel hyn.

"Rydyn ni'n darparu bwyd ac eitemau angenrheidiol i rai mewn angen, ac yn dosbarthu bwyd i'r gwasanaethau brys hefyd.

"Hyd yn oed pobl sydd yn gweithio, fel gofalwyr, bydd llawer ohonyn nhw'n dod yma a byddwn ni'n rhoi bwyd am ddim iddyn nhw."

Image
Gweithwyr Victoria Fish Bar a'u holl wirfoddolwyr yn 2024. (Llun: Victoria Fish Bar)
Gweithwyr Victoria Fish Bar a'u holl wirfoddolwyr yn 2024 (Llun: Victoria Fish Bar)

Dros y blynyddoedd diwethaf mae cannoedd o bobl wedi derbyn bwyd a nwyddau fel cotiau, bagiau a theganau.

Victoria Fish Bar sydd yn coginio'r bwyd i gyd, ond mae Jawad yn dweud ni fyddai'n bosib iddyn nhw fwydo cymaint o bobl heb gymorth gwirfoddolwyr.

"Rhan fach iawn sydd gennym ni," meddai.

"Pawb arall sydd yn dod yma ac yn dosbarthu'r bwyd ar draws y ddinas, ac mae ein cyflenwyr yn rhoi bwyd a chynnyrch i ni wneud hynny'n bosib.

"Mae'r diolch yn mynd i'r gymuned gyfan."

'Gweld eu hwynebau'

Un dyn sydd wedi bod yn gwirfoddoli ers i'r prosiect gychwyn yn 2019 yw Bruce McBratney.

Mae'r dyn 81 oed yn gyrru ar draws Caerdydd yn dosbarthu bwyd a nwyddau i elusennau gwahanol.

Dywedodd bod gwaith y siop sglodion yn "ffantastig".

"Mae'r siop yn rhoi'r nwyddau i mi a wedyn dwi'n eu dosbarthu nhw, roedd yn rôl fach ar y dechrau ond yn eithaf mawr erbyn hyn," dywedodd wrth Newyddion S4C.

"Mae'r hyn maen nhw'n gwneud i'r gymuned yn ffantastig, mae'r adborth yn ffantastig o'r nyrsys yn yr ysbyty i'r rhai rydym yn rhoi teganau iddyn nhw.

"Pan chi'n gweld eu hwynebau, mae'r gwaith gwerth ei wneud.

"Mae pobl yn gofyn i fi pam bod fi'n gyrru o gwmpas yn lle mwynhau'r bwyd ar ddiwrnod San Steffan. Dwi'n ddigon ffodus i gael pryd o fwyd ar ddiwrnod arall ond dyw'r bobl yma ddim mor ffodus."

Image
Yn 81 oed dyw Bruce (yn y siaced glas) ddim yn bwriadu rhoi'r gorau i wirfoddoli
Yn 81 oed dyw Bruce (yn y siaced glas) ddim yn bwriadu rhoi'r gorau i wirfoddoli.

Nid dyma'r unig waith mae Victoria Fish Bar yn ei wneud yn y gymuned yn yr Eglwys Newydd.

Maen nhw eisoes wedi codi miloedd i elusennau lleol, ac yn bwriadu gwneud hynny am sawl blwyddyn arall.

"Dydyn ni ddim yn dathlu'r Nadolig ein hun, ond rydym ni eisiau cefnogi'r gymuned sydd wedi rhoi llawer o gymorth i ni trwy gydol y flwyddyn," meddai Jawad.

"Does dim cynlluniau gyda ni i stopio, rydym ni eisiau helpu'r gymuned mewn cymaint o ffyrdd â phosib.

"Rydym yn cefnogi sawl elusen leol yn barod ac yn bwriadu parhau i wneud hynny am flynyddoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.