Lluoedd America yn cynnal ymosodiadau pwerus yn erbyn 'terfysgwyr' yn Nigeria
Mae lluoedd America wedi cynnal ymosodiadau “pwerus” ar dargedau Islamic State (IS) yn Nigeria, yn ôl yr Arlywydd Donald Trump.
Dywedodd Mr Trump bod grwpiau yn ymwneud â'r grŵp eithafol IS wedi bod yn “targedu a lladd, yn bennaf, Cristnogion diniwed” yn nhalaith Sokoto yng ngogledd orllewin y wlad.
Mae Llywodraeth Nigeria wedi dweud ei fod yn rhan o ymgyrch ar y cyd i rannu cudd-wybodaeth er mwyn targedu “terfysgwyr”.
Mae lluoedd Nigeria yn brwydro yn erbyn sawl grŵp arfog ar hyn o bryd, gydag o leiaf dau sydd â chysylltiadau ag IS.
Mae rhain yn cynnwys grŵp yn ymwneud a’r grŵp eithafol Boko Haram, a grŵp o’r enw Lakurawa, sydd yn gweithredu yng ngogledd orllewin y wlad.
Mae’r grwpiau rhain, ac eraill, yn gyfrifol am ladd miloedd o bobl ar draws y wlad dros y ddegawd ddiwethaf.
Mae grwpiau hawliau dynol yn dweud nad oes tystiolaeth i ddangos bod grwpiau Cristnogol wedi eu targedu’n anghymesur.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ysgrifennydd Rhyfel yr Unol Daleithiau, Pete Hegseth fod “mwy i ddod.”
“Roedd yr Arlywydd yn glir fis diwethaf: mae’n rhaid rhoi stop ar ladd Cristnogion diniwed yn Nigeria (a phob man arall).”
Llun: US Department of Defense