Protest cyfryngau cymdeithasol menywod Affganistan yn erbyn y Taliban
Yn dilyn protestiadau stryd ar draws dinasoedd Affganistan, mae menywod bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i brotestio yn erbyn polisïau caled y Taliban tuag atynt.
Drwy ymgyrch ar-lein, mae menywod Affgan ledled y byd yn rhannu lluniau ohonyn nhw eu hunain yn gwisgo dillad lliwgar traddodiadol, gan ddefnyddio'r hashnod #DoNotTouchMyClothes.
Mae'r brotest yn ymateb i wrthdystiad a drefnwyd gan y Taliban ym Mhrifysgol Kabul, lle ymddangosodd tua 300 o fenywod mewn dillad du i gyd oedd yn gorchuddio eu hwynebau, eu dwylo a'u traed.
Drwy chwifio baneri'r Taliban, dywedodd y menywod eu bod nhw’n cefnogi’r Taliban sydd wedi cyhoeddi na fyddai menywod yn cael dal swyddi uchel yn eu llywodraeth a bod angen i ysgolion a phrifysgolion gael eu gwahanu ar sail rhyw.
Mae llawer o fenywod Affganistan, yn ofni y gallai eu rhyddid gael ei gyfyngu i amgylchiadau tebyg fel yr oedd dan gyfundrefn y Taliban rhwng 1996 a 2001, lle'r oedd menywod yn gyfyngedig i'w cartrefi i raddau helaeth.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: @Saud_Writes/Twitter