Newyddion S4C

Teuluoedd yn dal i chwilio am atebion ddegawd wedi trychineb y Gleision

Newyddion S4C 15/09/2021

Teuluoedd yn dal i chwilio am atebion ddegawd wedi trychineb y Gleision

Ddeng mlynedd ers trychineb glofa'r Gleision yng Nghwm Tawe mae teuluoedd y pedwar glowr fu farw'n dal i chwilio am atebion.

Boddwyd Charles Breslin, 62, David Powell, 50, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, pan orlifodd ddŵr i'r lofa ar 15 Medi, 2011. 

Ar ddiwedd achos llys fe gafwyd cyn rheolwr y lofa'n ddieuog o ddynladdiad drwy esgeulustod, ac fe gafwyd perchnogion MNS Mining yn ddi-euog o ddynladdiad corfforaethol.

Er i'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch gynnal ymchwiliad mae'r teuluoedd yn dal i alw am gwest llawn.

“Fi'n meddwl bod e'n bwysig bod ni yn cofio'r dynion odd wedi colli eu bywydau yn y Gleision,” meddai Mavis Breslin a gollodd ei gwr Charles Breslin yn y pwll.

Yn 62 oed Charles Breslin oedd yr hynaf o’r pedwar i golli eu bywydau yn y digwyddiad.

Roedd ef a’i wraig yn edrych ymlaen at gael ymddeol gyda’i gilydd.

Image
Charles

“Odd e di mynd i'r gwaith yn y bore a o'n i ffili credu bod e ddim yn dod 'nôl eto,” meddai Mrs Breslin wrth raglen Newyddion S4C.

“Odd e'n tad dda. Odd e'n gŵr dda. A ni'n gweld eisiau fe lot.

“Peth od odd Charles moen siarad i fi am dan y lle, ond nag odd e'n gweud gormod.

“O'n i'n meddwl bo rywbeth ddim yn reit achos pethe odd e'n gweud.

Ychwanegodd Mrs Breslin nad oedd hi'n fodlon gweld ein gŵr yn gweithio yn y safle yn ei oedran. 

“Odd e'n gwybod 'ny, ond odd e'n gweud ma' ond am gwpl o wythnosau odd e fod i fod.

“Fi'n cofio gweud wrth Prince Charles, pan odd e'n cyfarfod ni yn Rhos yn yr ysgol bo fe'n mynd i 'retireio' mewn tair wythnos - na beth odd y plan 'da ni any way.

Image
Cofeb am y dynion fu farw

Deng mlynedd yn ddiweddarach a hithau nawr yn gorfod gofalu am ei merch anabl ar ei phen ei hun, dydy Mavis Breslin dal ddim yn credu fod hi a’r teuluoedd eraill wedi cael cyfiawnder.

“Ma’ fe yn lot yn fwy galed i fi nawr heb y gŵr yn y tŷ.

“Fi di clywed nawr, ma' nhw'n meddwl agor inquest eto.

“I ddechrau wedes i na, ond nawr fi moen gwybod mwy o'r ffeithiau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.