Dim digon o dai ar gael i bobl ifanc, yn ôl elusen yn y gogledd

Newyddion S4C

Dim digon o dai ar gael i bobl ifanc, yn ôl elusen yn y gogledd

Mae’r galw am help i bobl ifanc ddigartref yn cynyddu a dim digon o dai ar gael, yn ôl pennaeth un elusen yn y gogledd. 

Daw rhybudd Prif Weithredwr GISDA wrth i’r mudiad nodi ei benblwydd yn 40 oed. 

Yn ôl Sian Elen Tomos, mae costau tai, costau rhent a chostau cynyddol eraill yn ei gwneud hi’n anodd cwrdd â’r angen. 

Dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn ceisio cynyddu’r nifer o dai cymdeithasol sydd ar gael. 

Cafodd GISDA ei sefydlu yng Nghaernarfon yn 1985 ar ôl i berson ifanc digartref dorri i mewn i ganolfan ieuenctid y dref. 

Image
Anya Easey Sherlock
Anya Easey Sherlock

Mae’r gwaith wedi cynnyddu ers hynny ac mae Anya Easey Sherlock ymhlith y miloedd sydd wedi derbyn cymorth. 

“Mae GISDA wedi safio bywyd fi," meddai Anya.

"Dwi rili yn meddwl hynna achos pan nes i first symud i GISDA o’n i’n rili stryglo efo iechyd meddwl fi.

“O’n i wedi bod yn soffa surfio, dwi wedi bod yn ddi-gartref. Dwi wedi cysgu mewn bus stop o’r blaen. Ac o’n i’n stryglo efo drugs.”

“A jyst cael rhywle stable i fyw, lle fi, rhywle dwi’n teimlo’n saff a gallu anadlu.

“Oherwydd oedd byw efo dad fi, byw yn ddigartref, byw efo nain fi, constantly symud o lle i lle, byth byw yn yr un lle am mwy na cwbl o misoedd.

“Jyst cael y stability yna, cael rhywle sydd bia fi, lle saff, a jyst anadlu.”

'Anodd'

Yn gweithio o’u swyddfeydd yng Ngaernarfon, Blaenau Ffestiniog a Phwllheli fe helpodd yr elusen 764 o bobl ifanc yn 2024-25.

Roedd hynny’n cymharu â 623 o bobl ifanc yn 2023-24. 

“Yn anffodus dydy niferoedd y bobl ifanc ddigartref ddim yn mynd i lawr. Mae nhw ar i fyny,” meddai Prif Weithredwr GISDA Sian Elen Tomos.  

“Does ‘na ddim digon o dai i bobl ifanc symud yn eu blaenau. Mae costau tai, costau rhentu ar i fyny, popeth ar i fyny.”

“Mae o yn anodd. Ond ‘dan ni’n parhau i ymgyrchu parhau i roi llais i bobl ifanc a trio gwneud gwahaniaeth y gorau fedran ni fel elusen fach.”

Image
Zack James Robinson
Zack James Robinson

Un arall sy’n derbyn cymorth gan GISDA ydy Zack James Robinson sy’n dweud bod y cymorth gafodd o yn llawer mwy na thô uwch ei ben. 

“Ar ôl cwpl o fisoedd o’n i’n dechrau teimlo’n saff yn y cartref newydd.” meddai Zack. 

“Ac roedd yr iselder o’n i’n teimlo’n dechrau troi yn curiosity am lle alla i fynd mewn bywyd a’r gwahaniaeth fedra i wneud i bobl ifanc.

“Mae pobl ifanc jyst isio rywun i wrando arnyn nhw ac oedd GISDA yn gallu gwneud hynna i fi.”

Yn 2023-24 roedd 21% o’r rhai gafodd gymorth rhag mynd yn ddigartref yng Nghymru rhwng 16-25 oed, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru. 

Mae dyletswydd cyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i helpu unrhyw un sy’n wynebu bod yn ddigartref ac mae GISDA ymhlith y cyrff mae Cyngor Gwynedd yn gweithio â nhw. 

'Prinder'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn “falch iawn o’r gwasanaethau mae GISDA a mudiadau tebyg yn eu darparu a’r effeithiau positif mae’r gwasanaethau hynny yn eu cael ar fywydau trigolion y Sir".

“Yn anffodus, mae digartrefedd ar gynnydd yn genedlaethol ac mae yna brinder o gartrefi fforddiadwy o’i gymharu a’r galw amdanynt," medden nhw.

“Mae Cynllun Gweithredu Tai y Cyngor yn amlinellu nifer o brosiectau sy’n ymateb i’r heriau yn y maes tai gan gynnwys cynyddu’r niferoedd o dai cymdeithasol trwy weithio mewn partneriaeth gyda cymdeithasau tai lleol i adeiladu mwy o dai.

“Rydym hefyd yn ariannu nifer o brosiectau cymorth tai sy’n atal digartrefedd a sefydlogi sefyllfa trigolion o ran tai, gan gynnwys rhai o’r gwasanaethau a ddarperir gan GISDA.

“Gwyddwn bod digartrefedd yn llawer iawn mwy na thai, ac o’r herwydd ‘rydym yn awyddus i barhau i weithio gyda’n partneriaid ac adnabod cyfleon i gyd-weithio ymhellach i’r dyfodol gyda’r nod o leihau digartrefedd a’i effeithiau.”

Dywed Llywodraeth Cymru; “Mae’r niferoedd uchel o bobl sy’n cael cymorth llety dros dro yn adlewyrchu’r pwysau parhaus yn y system ac effaith yr argyfwng costau byw ar unigolion ac aelwydydd.

“Er hyn, rydym yn parhau i ymdrin â’r mater ar yr egwyddor na ddylai unrhyw un orfod cysgu ar y stryd ac rydym yn buddsoddi £240m i atal digartrefedd a chymorth tai eleni yn unig.

“Mae hyn yn cynnwys £7m wedi ei glustnodi i adnabod yn gynnar ddigartrefedd ymhlith yr ifanca chymorth i bobl ifan ddatblygu’r sgiliau bywyd i fyw’n annibynnol.

“Mae’r Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) diweddar weid ei seilio ar brofiad ac arbenigedd pobl sydd wedi byw’n ddigartref ac â’r nod o drawsnewid y system yng Nghymru i ganolbwyntio ar waith ataliol gan roi rhagor o ffyrdd o helpu pobl i dai mwy hir dymor.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.