Cyrraedd targed ariannol i gwblhau gwaith angenrheidiol ar Bier Bangor

Pier Bangor wedi oleuo

Mae ymgyrch codi arian i orffen gwaith angenrheidiol ar Bier Bangor wedi cyrraedd y targed o £40,000.

Dechreuodd Ffrindiau Pier Garth Bangor yr ymgyrch ar GoFundMe er mwyn cwblhau gwaith angenrheidiol ar is-strwythur y pier er mwyn ei ddiogelu.

Y pier yw un o dri phier yn unig yn y DU sydd yn Radd II rhestredig ac wedi bodoli ers 1896.

Cyngor Dinas Bangor yw perchnogion y pier, ac ers 2017 maen nhw wedi gwario £2.2 miliwn ar waith brys er mwyn ei drwsio.

Ond ers yr 1980au mae'r is-strwythur wedi bod yn dirywio.

Mae Ffrindiau Pier Garth Bangor wedi cydweithio mewn partneriaeth gyda'r cyngor er mwyn cychwyn ar waith unwaith eto i wella diogelwch y pier.

Dywedodd y cyngor y byddan nhw'n ychwanegu £40,00 at yr £40,000 sydd yn cael ei godi trwy'r ymgyrch.

Y gobaith yw bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.