
Pryder fod hen ysgolion gwledig yn denu ffatrioedd canabis
Mae yna bryder bod hen ysgolion gwledig gwag yn denu ffatrioedd canabis yng ngorllewin Cymru.
Wrth i Gyngor Sir Ceredigion ystyried gwerthiant Ysgol Gynradd Beulah, mae cynghorydd cymuned wedi rhybuddio bod y sefyllfa'n bryderus, am fod sawl ffatri ganabis wedi eu darganfod mewn hen ysgolion yn ne'r sir.
Yn Nhachwedd 2024, cafodd gwerth hyd at £620,000 o ganabis ei ddarganfod yn adeilad hen Ysgol Gynradd Llandysul.
Yn gynharach y flwyddyn honno, cafodd tua 1,500 o blanhigion canabis eu darganfod ar safle’r hen ysgol ramadeg yn y dref.
Hefyd yn Nyffryn Teifi, ym mis Mawrth 2023, daeth yr heddlu o hyd i gyfarpar tyfu canabis yn Ysgol Gynradd Pontsian.
Fe gaeodd yr ysgolion yn Llandysul a Phontsian cyn i Ysgol Bro Teifi agor yn 2016.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y Cynghorydd Cymuned dros Bontsian, Gethin Jones fod tawelwch cefn gwlad yn “caniatáu i ddrwg-weithredwyr wneud fel y mynnon nhw”.
“Mae’r adeiladau yn cael eu gadael yn wag a s’dim lot o bobl o gwmpas i sylwi,” meddai.
Mae’n pryderu am ddiogelwch yr ardaloedd gwledig “os oes rhywun yn cwestiynu beth sydd ‘mlaen gyda’r drwg-weithredwyr”.
'Golchi eu dwylo'
Yn ôl Gethin Jones, mae Cyngor Sir Ceredigion yn rhannol ar fai am y sefyllfa: “So nhw’n becso dim am bwy sy’n dod ‘na [i’r hen safleoedd]”.
“Ma nhw’n cau’r safleoedd heb feddwl am yr effaith ar gymunedau na strategaeth fel ‘fast-tracko’ caniatâd cynllunio”.
“Does dim strategaeth gan y cyngor [Ceredigion]- ma nhw’n gwerthu mewn ocsiwn ac yna yn golchi eu dwylo fel petai,” meddai.
Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, maent yn “ystyried yn ofalus a oes opsiwn i ail-ddefnyddio adeiladau gwag ar gyfer defnydd arall gan y Cyngor”.
“Os nad oes opsiwn arall, byddwn yn ystyried y potensial o ddatblygu tir a'r adeiladau,” medden nhw.
“Mewn sawl achos, gall y Cyngor weithio gyda datblygwr neu landlord cymdeithasol cofrestredig i ddod â chynlluniau ymlaen.
“Mewn achosion eraill, mae'r Cyngor yn gwaredu'r safle ar y farchnad agored ac yna’n buddsoddi'r arian i mewn i'r Rhaglen Gwella Ysgolion.
“Os bydd ysgol ar y farchnad agored, bydd gan y prynwr gyfrifoldeb i ddilyn caniatâd cynllunio,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

‘Gwybod dim’
Dywedodd rhai a oedd yn byw gerllaw safle hen Ysgol Gynradd Llandysul nad oedden nhw’n ymwybodol o gwbwl bod unrhyw beth anghyffredin yn digwydd yno.
Mae Dennis Jones yn byw ger safle hen Ysgol Gynradd Llandysul ac yn cofio’r nos Wener pan ymddangosodd yr heddlu ar y safle.
Dywedodd “ambell waith welen i fan wen ‘na, ond sai di meddwl lot amdano fe ers ‘ny”.
“Odd e’n sioc mawr- oedd y wraig yn Merched y Wawr yn yr hen ysgol feithrin ar y safle ac yna daeth yr heddlu i fewn,” meddai.
“Yr unig beth sylwes oedd yn wahanol oedd bod y ‘blinds’ wedi newid i fod yn rai lliwiog.”
Yn ôl Eirwyn Harries sy’n byw gyfagos, cafodd syndod wrth glywed am gyrch yr heddlu.
“Odd e’n sioc i ni achos odd neb yn gwybod pwy o’dd ‘na,” meddai.
“Mae’n digwydd mewn sawl lle - does dim lot ers iddyn nhw ganfod drugs mewn lle drws nesaf i Orsaf Heddlu Castell Newydd Emlyn,” meddai.
Llun: Gethin Jones ag Ysgol Gynradd Pontsian