Arweinydd newydd y Blaid Werdd am symud ei blaid i'r asgell chwith
Mae arweinydd newydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, wedi dweud ei fod eisiau symud gwleidyddiaeth ei blaid i'r chwith.
Fe allai penodiad Mr Polanski, a astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gynnig cur pen arall i lywodraeth Syr Keir Starmer wrth ymrafael am yr un cefnogwyr yn y dyfodol.
Rhybuddiodd arweinydd newydd y blaid mewn neges i Lafur yn ystod ei araith yn dathlu ei fuddugoliaeth eu bod yno i "ddisodli" Llafur.
Fe ddisgrifiodd arweninydd Reform UK, Nigel Farage, fel "siarlatan" gan gydnabod bod llawer o bleidleiswyr yn cael eu denu at y blaid o ganlyniad i deimlo’n “anobeithiol”.
Dywedodd yr aelod o Gynulliad Llundain yn ddiweddarach wrth asiantaeth newyddion PA ei fod eisiau adennill y gair “poblyddol” ('populist') gan Nigel Farage.
“Rydym eisiau adennill y gair ‘poblyddol’, y gair ‘gwladgarwr’, a hyd yn oed y faner," meddai.
“Rwy’n credu bod angen i ni roi’r gorau i roi’r symbolau a’r syniadau hyn i’r dde dim ond oherwydd eu bod nhw’n gweiddi’n uwch.”
Adrodd straeon
Dywedodd y gallai’r Blaid Werdd ddysgu o lwyddiant Reform wrth adrodd straeon.
“Rwy’n casau gwleidyddiaeth Nigel Farage a phopeth y mae’n ei gynrychioli," meddai.
"Mae’n cymryd gwybodaeth anghywir a chelwyddau ac yna’n ei gyfuno â stori bwerus.
“Ni fyddwn byth yn cymryd gwybodaeth anghywir a chelwyddau, ond yr hyn rwy’n credu y gallwn ddysgu ohono yw’r straeon pwerus, a dyna pam rydym yn aml yn gweld arolygon barn Reform ar y brig.”
Pan ofynwyd iddo pan nad oedd gan y Blaid Werdd yn agos at yr un faint o aelodau a Reform er bod gan y ddwy blaid bedwar aelod seneddol yr un, dywedodd Mr Polanski ei fod yn bwriadu newid hynny ar unwaith.
Mae gan y Blaid Werdd 68,500 o aelodau bellach, tra bod gan Reform UK fwy na 200,000.
Dywedodd Mr Polanski ei bod hi’n rhy gynnar i siarad am weithio gyda phlaid cyn-arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, “oherwydd nad ydyn nhw’n bodoli, nid ydyn nhw hyd yn oed yn blaid eto”, ond awgrymodd y byddai’n agored i gydweithredu.
Llun: PA