
'Angen mwy o help' ar bobl sy’n gadael y lluoedd arfog
'Angen mwy o help' ar bobl sy’n gadael y lluoedd arfog
Mae angen mwy o help ar bobl sy’n gadael y lluoedd arfog, ac mae angen mwy o arian i ddatblygu’r cymorth sy'n barod ar gael - dyna’r neges gan grŵp o wirfoddolwyr yng Nghwm Rhondda.
Cafodd Valley Veterans ei sefydlu bron i chwarter canrif yn ôl.
Llond llaw o ddynion oedd yn dod at ei gilydd bryd hynny i drafod pryderon dros baned mewn tŷ yn y pentref.
Erbyn hyn mae’r grŵp yn helpu hyd at 100 o gyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd bob wythnos.
“Dwi 'di bod mewn lle tywyll iawn am 22 o flynyddoedd, dwi’n diodde gyda PTSD.
"Heb y bobl yma, heb eu help fydden i ddim yma. A dwi wir yn meddwl hynny, fydden i ddim yma heddiw,” meddai Jeremy Paul Robertson a dreuliodd dair blynedd a hanner gyda chatrawd y 1 PARA, cyn ymuno â’r Royal Military Police.
Roedd Alan Jones yn aelod o’r lluoedd arfog am 37 o flynyddoedd.
“Dyma un o’r grwpiau gorau o ran rhoi cefnogaeth. Mae’n codi’ch ysbryd chi os ydych chi’n teimlo’n isel. Ni’n dod yma i drafod yr hen fechgyn, y bechgyn ry’ ni wedi colli," meddai.

Mae’r grŵp yn mynd o nerth i nerth, ond mae pryder nad yw cyn-aelodau’r lluoedd arfog mewn rhannau eraill o Gymru mor ffodus.
“Does dim digon o help, mae angen mwy o arweiniad ar bobl sy’n gadael i wbod be sydd ar gael iddyn nhw. Mae grwpiau cymorth fel Valley Veterans, does dim llawer ohonyn nhw, a mae angen i bobl allu gwybod bod na le iddyn nhw fynd, bod na help ar gael," meddai Lowri Woodington, gwirfoddolwr gyda Valley Veterans.
"Mae popeth angen mwy o arian, mwy o funding… mwy o arian, mwy o wybodaeth, lledaenu’r neges bod angen yr help yna a bod angen i fwy o bobl wirfoddoli. Achos mae fe literally yn achub bywydau rhai pobl."
Os yw prysurdeb y bore coffi’n mynd yn ormod, mae cyfle i gael seibiant yn y gerddi sydd wedi eu creu gan aelodau’r grŵp.
Maen nhw’n defnyddio ceffylau fel therapi, yn plannu blodau a llysiau, ac yn gofalu am yr ieir mewn gardd gymunedol yn y pentref.

“Ma pobl yma’n ddyddiol yn gwneud gwaith garddio, neu gyda’r ieir a’r ceffylau," meddai Rhian Roberts, gwirfoddolwr arall gyda'r Valley Veterans.
"Mae gyda nhw’r clwb brecwast ar gyfer y cymdeithasu a bod gyda'i gilydd a’r camaraderie ma' nhw’n gyfarwydd gyda ar ôl bod yn y lluoedd arfog a wedyn ma gyda nhw fan hyn ar gyfer y pwrpas, a’r rheswm i ddod yn ddyddiol a cael y budd o be sy’n dod o’r equine therapy, y therapi ceffylau a’r garddio, a’r tawelwch sy’n dod gyda bod mas tu fas.”
Mae’r nifer sy’n elwa o’r gwasanaethau wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd.
“Chi ond yn gorfod gweld faint o bobl sy ‘na. Fi di bod ar y siwrne ma ers y dechre… odd dau neu dri o ddynion yn cwrdd bob wythnos, i 90-100 o deuluoedd sy’n dod yma’n wythnosol. Mae rhai yn dweud mai dyma’r rheswm ma nhw dal yma," meddai Rhian Roberts.
Mae’r elusen bellach yn gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd a Chyngor Rhondda Cynon Taf fel bod modd iddyn nhw helpu mwy fyth o gyn aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Mae nhw’n gobeithio parhau i helpu pobl yn ardal Ton Pentre a thu hwnt, a pharhau i achub bywydau.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ymateb i'r feirniadaeth nad oes digon o gyllid yn cael ei fuddsoddi mewn cynlluniau o'r fath.