Paragleidiwr o Fôn wedi marw 'o anaf i'w ben' mewn hen chwarel yng Ngwynedd
Clywodd cwest bod paragelidiwr o Fôn wedi marw o anaf i'w ben yn dilyn damwain mewn hen chwarel lechi yng Ngwynedd.
Bu farw Geoffrey Corser, 46 oed, o Gae Mair ym Miwmares yn chwarel Dinorwig ger Llanberis ar 23 Awst.
Wrth agor cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mawrth, dywedodd uwch grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, ei bod yn gohirio'r cwest am y tro wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cwblhau.
"Y wybodaeth gychwynnol yw ei fod yn paragleidio pan ddigwyddodd gwrthdrawiad yn y chwarel a chadarnhawyd ei fod wedi marw," meddai.
Ychwanegodd y crwner fod Mr Corser yn gweithio i'r lluoedd arfog.