Caernarfon: Darganfod corff dyn yn y dŵr
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau fod corff dyn wedi ei ddarganfod yn y dŵr yng Nghaernarfon fore Mawrth.
Cafodd yr heddlu, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI eu galw i'r dref toc wedi 07:00.
Roedd swyddogion yn ymateb i adroddiadau fod corff yn y dŵr rhwng ardal Doc Fictoria a Chastell Caernarfon, ger y promenâd.
Fe wnaeth yr heddlu rybuddio cerddwyr i gadw draw o'r ardal yn ystod y bore wrth i swyddogion gynnal ymchwiliad.
Mae’r crwner bellach wedi cael gwybod bod dyn wedi marw, ac mae’r llu yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth.