
Cadeirlan Bangor yn ystyried diswyddiadau wedi cyfnod cythryblus
Cadeirlan Bangor yn ystyried diswyddiadau wedi cyfnod cythryblus
Mae Cadeirlan Bangor sydd wedi bod drwy gyfnod cythryblus yn ddiweddar, yn ystyried diswyddo dwy ran o dair o’i gweithlu, tra’n bygwth y rheiny mae’r newid yn effeithio arnyn nhw gyda chamau disgyblu, petaen nhw’n codi eu llais am y cynlluniau.
Mae Newyddion S4C wedi gweld dogfennau sydd wedi eu hanfon at staff mae’r cynlluniau’n effeithio arnyn nhw, sy’n nodi "...y gall unrhyw dorri ar gyfrinachedd olygu camau disgyblu. Os yw'n aneglur pwy sydd wedi torri cyfrinachedd, gallai'r holl unigolion dan sylw gael eu disgyblu."
Mae llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dechrau ymgynghori ar ddiswyddiadau posibl oherwydd pwysau ariannol. Dyma’r bennod ddiweddaraf mewn cyfnod go gythryblus i Esgobaeth Bangor eleni.
Ar benwythnos Calan Mai, fe gafodd crynodeb o ddau adroddiad eu cyhoeddi ar wefan yr Eglwys yng Nghymru. Roedd yma sôn am “ddiwylliant lle’r oedd ffiniau rhywiol yn niwlog,” defnydd o iaith anweddus a gor-yfed o fewn y Gadeirlan.
Yn ddiweddarach, fe ddaeth i’r amlwg fod y Comisiwn Elusennau yn ymchwilio i nifer o achosion cyfeirio digwyddiadau difrifol, oll yn ymwneud ag Esgobaeth a Chadeirlan Bangor, dros gyfnod o ychydig yn hwy na blwyddyn.
Yna, daeth ymddeoliad disymwth Andy John fel Archesgob Cymru ddiwedd Mehefin. Fe wnaeth e ymddeol fel Esgob Bangor ddiwedd Awst hefyd, ar ôl cyfres o straeon newyddion negyddol am yr Esgobaeth.
Mae Newyddion S4C yn deall bod disgwyl i'r Gadeirlan ad-dalu'r Esgobaeth wedi i ddegau o filoedd o bunnoedd gael ei wario ar gelfi i'r gadeirlan, urddwisgoedd eglwysig a thripiau dramor dan enw'r côr i Rufain a Dulyn.
Dealltwriaeth Newyddion S4C yw i'r gwariant ddigwydd yn ystod cyfnod Sion Rhys Evans fel is-Ddeon y Gadeirlan ac ysgrifennydd yr esgobaeth. Deellir na ofynnwyd ar y pryd i'r arian gael ei ad-dalu gan y Gadeirlan ac nad oedd gan yr is-Ddeon fynediad i system fancio ar-lein y Gadeirlan.
Dyled
Mae Newyddion S4C yn deall fod Cadeirlan Bangor mewn dyled i Esgobaeth Bangor (sy’n elusen wahanol i’r Gadeirlan). Hyn wedi i ddegau o filoedd o bunnau o goffrau’r Esgobaeth gael eu gwario ar ddodrefn i’r Gadeirlan, gwisgoedd a theithiau i Ddulyn a Rhufain.
Byddai rôl Cyfarwyddwr Cerdd y Gadeirlan, Joe Cooper yn haneru o dan y cynllun diswyddiadau. Mae’n honni ei fod yn wynebu cyfnod ymgynghori o bythefnos, ac mae’n poeni am ddyfodol côr y Gadeirlan.

Mae’n teimlo bod y côr, yn benodol, yn cael ei daro'n galed oherwydd diffygion rheoli arian honedig y gorffennol.
“Rwy’n poeni mai dyma ddiwedd fy nghyfnod yma fel cyfarwyddwr cerdd, ac mae’n bechod mawr, achos doedd dim angen iddi fod fel hyn,” meddai.
“’Petaen ni wedi gallu gweithio gyda’n gilydd a thrafod rhai pethau, fe fydden ni wedi gallu dod o hyd i ffordd ymlaen.”
“’Dy chi’n gweld pethau ar y newyddion pan mae ‘na oblygiadau i’r bobl ar y top am be’ ddigwyddodd. Ond 'dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig cofio mai’r dioddefaint go iawn a’r pechod mwya’, ydi pan mae’r gweithwyr ar y gwaelod un yn gorfod ysgwyddo’r goblygiadau a’r cyfrifoldeb am fethiannau’r rheolwyr a’r llywodraethwyr ar lefelau uwch.”
Doedd Sion Rhys Evans ddim am wneud sylw cyhoeddus am yr honiadau o reoli ariannol gwan yn ystod y cyfnod pan oedd e'n gweithio fel is-Ddeon.
Fe gafodd ei atal o’i rolau yng Nghadeirlan Bangor ac Esgobaeth Bangor ym mis Chwefror 2024. Ar y pryd, fe ddywedodd yr Eglwys mewn e-bost mewnol bod yn rhaid i broses ddigwydd ac nad oedd y gwaharddiad yn arwydd o unrhyw euogrwydd ar ei ran. Gadawodd Sion Rhys Evans yr Eglwys yng Nghymru yn ddiweddarach.
'Annheg'
Mae Owain Morgan yn aelod o’r Gadeirlan ac yn gwirfoddoli gyda’r côr. Mae’n teimlo y gellid bod wedi gwneud arbedion mewn ffordd mwy pwyllog.
"Y teimlad sydd gen i ydy bod mynd ati i ddiswyddo rhai pobl sydd mor ymroddedig, rhai sydd yn eitha' bregus hefyd - mae'n teimlo'n ofnadwy o annheg i mi."
"Byddwn i'n erfyn ar y cabidwl ac ar yr Esgobaeth i drio ffindio ffordd ymlaen sydd, efallai, yn fwy trugarog."
Mae Newyddion S4C yn deall fod y Gadeirlan yn cyflogi wyth aelod o staff lleyg (heb gynnwys offeiriaid) ac y byddai’r cynlluniau yn golygu colli pum rôl a hanner, yn cynnwys y rheolwr gweithrediadau, y swyddog teulu a’r gofalwr.
Mae’r Gadeirlan wedi cyhoeddi penodiad Deon newydd, fydd yn goruchwylio rheolaeth y Gadeirlan.
Mae cyfnod Dr Manon Ceridwen James wrth y llyw yn dechrau yn swyddogol ar 10 Medi. Mae ffynonellau o fewn y Gadeirlan wedi dweud wrth Newyddion S4C eu bod nhw’n credu y dylid oedi’r broses ymgynghori hyd nes y bydd y Deon newydd yn ei rôl.
Yn ôl llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor, maen nhw’n dilyn yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol.