Teyrnged i 'fam ysbrydoledig' fu farw yn dilyn gwrthdrawiad beic
Mae teulu menyw 33 oed wedi rhoi teyrnged i fam “ysbrydoledig” fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Benfro fis diwethaf.
Bu farw Jodie Amanda James yn yr ysbyty ar ddydd Sul 24 Awst.
Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad pan oedd yn reidio ei beic ar ffordd yr A40 ger Llanddewi Felffre ar fore Gwener 22 Awst.
Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu: “Roedd Jodie yn fam gariadus i Kaleb, yn ferch i Amanda a Stephen.
“Roedd Jodie yn berson ysbrydoledig ac yn arbennig iawn i ni.”
Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio yn dilyn y gwrthdrawiad ac yn apelio am dystion.
Cafodd dyn 33 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol trwy yrru'n beryglus a gyrru cerbyd anaddas.
Mae swyddogion yn annog unrhyw un a oedd yn teithio ar yr A40 ger Llanddewi Felffre am tua 08.00 ar 22 Awst, i gysylltu â nhw gydag unrhyw wybodaeth neu luniau dashcam.