
'Angen gwneud mwy' i helpu rhieni gyda chostau ysgol
Mae prif weithredwr 'banc bob dim' Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i "wneud mwy" i gefnogi rhieni gyda chostau ysgol.
Yn ôl Cherrie Bija, prif weithredwr Faith in Families, sydd yn rhedeg Banc Bob Dim Cymru Cwtch Mawr yn Abertawe mae rhieni "angen mwy o gefnogaeth" gyda chostau cyfarpar a gwisg ysgol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "helpu teuluoedd ar incwm is gyda phrynu gwisg ac offer ysgol".
Eleni fe wnaeth y banc bob dim lansio ymgyrch 'Dychwelyd i'r ysgol gyda chwtsh' oedd yn darparu bag cinio, potel ddŵr, peniau lliwio a llyfr nodiadau i blant yn yr ysgol gynradd.
Roedd y rhai sy'n cael eu rhoi i ddisgyblion ysgol uwchradd yn cynnwys cyfrifiannell wyddonol, set geometreg a llyfr nodiadau ymhlith nwyddau eraill.
Cafodd bron i 2,000 o 'gitiau dychwelyd i'r ysgol' eu darparu yn Abertawe.
Mae dros 10,500 o blant wedi derbyn citiau ledled y DU.

Mae Ms Bija yn dweud bod y cyfnod pan mae plant yn mynd yn ôl i'r ysgol yn anodd i rieni a bod angen cymorth arnynt.
"Mae dychwelyd i'r ysgol yn gyfnod hynod o straenus i lawer o deuluoedd," meddai.
"Mae cost gwisgoedd ysgol, esgidiau, deunydd ysgrifennu, a hyd yn oed bocs bwyd wedi codi'n sydyn.
"I rieni sydd eisoes yn cael trafferth gyda rhent, bwyd a biliau ynni, gall pwysau ychwanegol costau dychwelyd i'r ysgol eu gwthio i argyfwng.
"Rydym yn clywed gan deuluoedd bob dydd sy'n gwneud dewisiadau amhosibl — rhwng gwresogi eu cartrefi, bwydo eu plant, neu brynu'r pethau sylfaenol sydd eu hangen ar eu plant i deimlo'n gyfartal â'u cyd-ddisgyblion.
"Mae darparu'r bagiau ysgol hyn yn dileu un rhwystr ac yn helpu plant i ddechrau'r flwyddyn gydag urddas a hyder."
Ychwanegodd bod y galw am wasanaethau'r banc bob dim wedi codi'n sylweddol.
'Cefnogaeth'
Yn ôl Cherrie Bija mae teuluoedd yn dweud wrthi fod angen mwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i leddfu baich costau ysgol.
"Mae teuluoedd yn dweud wrthym yn uniongyrchol eu bod angen mwy o gefnogaeth strwythurol.
"Rydyn ni yn credu y gall y llywodraeth wneud mwy i leddfu costau dychwelyd i'r ysgol, boed hynny drwy grantiau gwisg ysgol, prydau ysgol am ddim, neu gefnogaeth ar gyfer eitemau hanfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein Grant Hanfodion Ysgol yn helpu teuluoedd ar incwm is gyda phrynu gwisg ac offer ysgol ac wedi helpu dros 90% o ddysgwyr cymwys gyda chostau ysgol.
"Mae ein canllawiau statudol ar bolisi gwisg ysgol yn nodi y dylai fforddiadwyedd fod yn flaenoriaeth, ac na ddylai eitemau wedi'u brandio fod yn orfodol.
"Gall mwy na dwy ran o dair o ddysgwyr gael mynediad at y cynnig o bryd bwyd am ddim bob dydd mewn ysgolion, gan gynnwys pob dysgwr ysgol gynradd a theuluoedd cymwys yn yr ysgol uwchradd. Rydyn ni’n parhau i adolygu’r meini prawf cymhwysedd."