Gêm gyfartal i Gymru wedi gôl hwyr ar ddechrau eu hymgyrch Cwpan y Byd
Mae menywod Cymru wedi cael gêm gyfartal yng ngêm gyntaf eu hymgyrch yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd a hynny oddi cartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
Y tîm cartref oedd y cyntaf i sgorio yn Uherske Hradiste wedi 20 munud o chwarae gydag Eva Bartonova yn sgorio o gic gornel y Weriniaeth Tsiec.
Tarodd Cymru yn ôl cyn 30 munud o chwarae, wrth i Lily Woodham groesi'r bêl i Hannah Cain a oedd yn y man cywir wrth iddi daro cefn y rhwyd yn rhwydd.
Roedd pryder am Hannah Cain ychydig cyn hanner amser wedi iddi syrthio wrth iddi gael ei hatal rhag sgorio gôl arall, a rhyddhad pan ddychwelodd i'r gêm.
Roedd hi'n 1-1 wrth i'r chwiban ddynodi hanner amser, ond y tîm cartref orffennodd gryfaf ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ar ddechrau'r ail hanner, daeth Carrie Jones i'r cae yn lle Ffion Morgan.
Wedi wyth munud o chwarae, aeth y Weriniaeth Tsiec yn ôl ar y blaen, wrth i Eva Bartonova groesi yn gelfydd at Jana Zufankova gan ei gwneud yn hawdd iawn iddi ddod o hyd i gefn y rhwyd.
2-1 i'r Weriniaeth Tsiec.
Roedd y Weriniaeth Tsiec yn bygwth sgorio eu trydedd gôl, a phwysau ar Gymru i unioni'r sgôr.
Wedi 66 munud o chwarae, daeth yr ymosodwyr Mared Griffiths ac Elise Hughes i'r cae yn lle Hannah Cain a Rachel Rowe.
Llwyddodd golwraig y Weriniaeth Tsiec, Olivie Lukasova i arbed ergyd Carrie Jones.
Daeth Mia Ross ac Esther Morgan i'r cae yn lle Angharad James a Lily Woodham wedi 81 munud o chwarae .
A chymrodd Hayley Ladd rôl y capten yn lle James.
Roedd pedair munud o amser ychwanegol, a llwyddodd Elise Hughes i fachu gôl hwyr ym munudau ola'r gêm, gyda pheniad gwych .
2-2 oedd y sgôr terfynol, a rhyddhad enfawr i Gymru.
Mae'r chwe gêm yn yr ymgyrch, sef tair gêm gartref a thair oddi cartref, yn cael eu chwarae ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mehefin.
Ymunodd Jess Fishlock â thim hyfforddi Cymru ar gyfer y gêm agoriadol.
Fe wnaeth prif sgoriwr Cymru ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref, ond mae'n parhau i chwarae i dîm Seattle Reign yn America.
Mae timau Ewrop wedi eu gwahanu i mewn i dair cynghrair, A, B a C, gyda hyd at 12 tîm yn gallu cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Fe fydd enillwyr y pedwar grŵp yng Nghynghrair A yn sicrhau eu lle yn awtomatig ar gyfer Cwpan y Byd Brasil 2027, ond fe fydd yn rhaid i’r gweddill o’r timau barhau i frwydro am le drwy’r gemau ail gyfle.
Yn rhan o gynghrair B, fe fydd Cymru yn ceisio ennill eu lle ar frig eu grŵp, sef B1, er mwyn sicrhau llwybr mwy ffafriol yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd yna ddwy rownd o gemau ail gyfle, gyda saith tîm yn hawlio eu lle ym Mrasil yn y pen draw, tra bod yna gyfle i wythfed tîm gymhwyso drwy gêm ail gyfle yn erbyn gwlad o gyfandir gwahanol.
Felly bydd angen i Gymru adeiladu ar y perffomiad nos Fawrth, pan fyddan nhw'n wynebu Montenegro yn Llanelli ddydd Sadwrn.