Dave, Marty a Violet: Cyhoeddi enwau stormydd y flwyddyn nesaf

storm isha porthcawl.png

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhestr o enwau stormydd ar gyfer y flwyddyn 2025/2026.

Amy, Bram a Chandra fydd y stormydd cyntaf i gael eu henwi'r gaeaf hwn ar ôl i fwy na 50,000 o awgrymiadau gael eu cyflwyno gan y cyhoedd.

Mae Swyddfa Dywydd y DU, ynghyd â gwasanaeth dywydd yr Iseldiroedd a Met Eireann yn Iwerddon yn enwi stormydd sydd yn debygol o gael effaith ‘canolig’ neu ‘uchel’ ar bobl dros y flwyddyn nesaf.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall hyn helpu i ddangos difrifoldeb y storm i’r cyhoedd.  Mae hefyd yn helpu pobl i feddwl pa gamau diogelwch fydd angen eu cymryd.

Mae’r tri sefydliad yn cydweithio i lunio’r rhestr cyn y tymor nesaf, sy’n rhedeg o fis Medi i fis Awst.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, enwyd chwe storm, gan gyrraedd y llythyren F gyda Storm Floris ar 1 Awst.

O dan gonfensiynau enwi a ddefnyddir ar gyfer stormydd yng Ngogledd yr Iwerydd, mae'r rhestr yn rhedeg yn nhrefn yr wyddor, gan hepgor Q, U, X, Y a Z.

Yr enw cyntaf yn rhestr eleni, Amy, oedd yr enw benywaidd mwyaf poblogaidd a gyflwynwyd i'r Swyddfa Dywydd.

Cafodd yr enw Dave ei rhoi gan wraig ar ôl ei "gŵr annwyl sy'n gallu chwyrnu dair gwaith yn uwch nag unrhyw storm".

Isla oedd yr enw mwyaf poblogaidd a gyflwynwyd ar gyfer “I”.

Roedd anifeiliaid anwes yn rhan o'r enwebiadau, gydag un gath, Oscar, wedi'i ddisgrifio fel "bachgen da, ond yn wallgof pan fydd yn rhedeg o gwmpas”.

'Gwahaniaeth mawr'

Dywedodd prif feteorolegydd yn y Swyddfa Dywydd, Rebekah Hicks: “Nid rhoi label iddyn nhw yn unig yw enwi stormydd, mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yn sylwi arnyn nhw.

“Pan fydd gan storm enw, mae’n haws i’r cyfryngau a’r cyhoedd siarad amdani, rhannu gwybodaeth, a pharatoi.

“Mae’n gam syml a all wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu cymunedau i aros yn ddiogel, amddiffyn eu cartrefi, a gwneud penderfyniadau gyda'r wybodaeth sydd ganddynt cyn tywydd garw.”

Dyma'r enwau a'u tarddiad:

Amy (DU)

Bram (Iwerddon)

Chandra (Iseldiroedd)

Dave (DU)

Eddie (Iseldiroedd)

Fionnuala (Iwerddon)

Gerard (Iwerddon)

Hannah (Iseldiroedd)

Isla (DU)

Janna (Iseldiroedd)

Kasia (Iwerddon)

Lilith (Iseldiroedd)

Marty (Iwerddon)

Nico (Iseldiroedd)

Oscar (DU)

Patrick (Iwerddon

Ruby (DU)

Stevie (DU)

Tadhg (Iwerddon)

Violet (DU)

Wubbo (Iseldiroedd)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.