Cymorth i farw: Y Gymdeithas Feddygol yn rhoi'r gorau i'w gwrthwynebiad
Mae'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) wedi rhoi’r gorau i'w gwrthwynebiad yn erbyn hawl cleifion i farw â chymorth ar ôl pleidlais.
Pleidleisiodd aelodau o undeb meddygon mwyaf y DU i fabwysiadu safbwynt niwtral ar farw â chymorth, gyda 49% o blaid, 48% yn gwrthwynebu a 3% yn ymatal.
Yn ôl Sky News, dywedodd y BMA fod y penderfyniad yn golygu na fydd yn cefnogi na'n gwrthwynebu ymdrechion i newid y gyfraith.
Er hynny, ni fydd y gymdeithas yn aros yn dawel ar y mater, gan ddweud bod ganddynt "gyfrifoldeb i gynrychioli buddiannau a phryderon ei aelodau mewn unrhyw gynigion deddfwriaethol yn y dyfodol".
Mae Sarah Wootton, prif Weithredwr ymgyrch ‘Dignity in Dying’ wedi croesawu’r symudiad i safle niwtral gan ei ddisgrifio yn “benderfyniad hanesyddol”.
“Mae'n dod â'r BMA yn unol â nifer cynyddol o gyrff meddygol yn y DU a ledled y byd sy'n cynrychioli'r ystod o safbwyntiau sydd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar farw â chymorth,” meddai Ms Wotton.
Ond mae mudiad ‘Care Not Killing’ yn pryderu bydd rhwyg ymysg barn meddygon sy’n gofalu am gleifion ar ddiwedd eu hoes.
Darllenwch y stori’n llawn yma.