Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Gwener, 10 Medi.
Croesawu buddsoddiad mewn ysgol feddygol yn y gogledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn gallu hyfforddi yn y gogledd yn rhan o fuddsoddiad pellach i sefydlu ysgol feddygol yn y rhanbarth. Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, yn galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer eu gradd meddygaeth i gyd yn y gogledd.
Diwrnod Atal Hunanladdiad: Tuedd i ‘osgoi’r anodd’ a’i ‘sgubo i’r neilltu’
A hithau’n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad ddydd Gwener, mae’r cyflwynydd teledu a’r ffermwr Alun Elidyr wedi dweud wrth Newyddion S4C fod nodi dydd o’r fath yn bwysig i godi ymwybyddiaeth pobl am broblemau iechyd meddwl. Wedi iddo ddarganfod ei fam yn farw bron i saith mlynedd yn ôl, fe ddechreuodd Mr Elidyr dioddef o iselder difrifol, gan gynnwys meddwl am hunanladdiad. Yn sgil y cyfnod clo, bu’r cyflwynydd ynghyd ag elusennau iechyd meddwl ledled Cymru yn galw am drafodaeth agored am iechyd meddwl a hunanladdiad.
Cyfyngu ar ymweliadau i ysbytai ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
Mae bwrdd iechyd yn y de wedi cyhoeddi y bydd cyfyngiadau pellach ar ymweliadau i ysbytai yn sgil "nifer cynyddol" o gleifion sydd wedi cael canlyniad positif am Covid-19. Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, roedd gwneud y penderfyniad yn "anodd", ond wedi cael ei wneud "er lles a diogelwch" y cleifion a'r staff.
Trydydd brechlyn Covid-19 yn ‘ddiangen’ i’r mwyafrif, medd athro
Mae un o wyddonwyr blaenllaw fu’n gweithio ar greu’r brechlyn Oxford/AstraZeneca wedi dweud fod rhoi trydydd brechlyn coronafeirws yn “ddiangen i’r mwyafrif”. Dywedodd y Fonesig Sarah Gilbert fod dau ddos o’r brechlyn â’r gallu i “bara yn dda”, a bod lefelau brechu ym Mhrydain yn ddigon i frwydro yn erbyn yr amrywiolion, megis Delta.
Emma Raducanu yn creu hanes yn rownd derfynol Pencampwriaeth Tenis Agored yr UDA
Mae Emma Raducanu drwodd i rownd derfynol Pencampwriaeth Tenis Agored yr UDA ar ôl iddi guro Maria Sakkari o Wlad Groeg. Raducanu, sy’n 18 oed, yw’r fenyw Brydeinig gyntaf i gyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth grand slam ers 44 o flynyddoedd.
Cwblhau her redeg er cof am chwaraewr rygbi
Mae grŵp o aelodau o Glwb Rygbi Gwmllynfell wedi cwblhau her redeg er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr angen i gael diffibriliwr ymhob clwb chwaraeon yng Nghymru. Fe gollodd y clwb yng Nghastell-nedd Port Talbot un o’i chwaraewyr, Alex Evans, ar ôl iddo gael trawiad ar y galon yn ystod gêm rygbi ym mis Awst.
Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar ap a gwefan Newyddion S4C.