Newyddion S4C

Croesawu buddsoddiad mewn ysgol feddygol yn y gogledd

10/09/2021

Croesawu buddsoddiad mewn ysgol feddygol yn y gogledd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd mwy o fyfyrwyr meddygol yn gallu hyfforddi yn y gogledd yn rhan o fuddsoddiad pellach i sefydlu ysgol feddygol yn y rhanbarth.

Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, sy’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd, yn galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer eu gradd meddygaeth i gyd yn y gogledd.

Eleni, bydd nifer y myfyrwyr ar y rhaglen yn ehangu o 20 i 25, ac i 40 o fyfyrwyr erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllïan, wedi croesawu cyhoeddiad.

Ers 2015, mae'r Aelod o Senedd Cymru wedi bod yn ymgyrchu dros agor ysgol feddygol ym Mangor.

Dywedodd y byddai’r newidiadau yn annog myfyrwyr meddygol i aros yn y rhanbarth hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gwblhau eu hyfforddiant.

“Am y tro cyntaf, fe fydd yr ysgol feddygol yn un fydd yn sefyll ar ei thraed ei hun,” dywedodd wrth Newyddion S4C.

“Mi fydd hyn yn gwella'r gwasanaethau meddygol sydd ar gael.

“Mae tystiolaeth yn dangos fod meddygon yn aros yn lle maen nhw’n g’neud eu hyfforddiant.

“‘Da ni’n gwybod fod ‘na brinder meddygon yn ein ysbytai ni ac mewn meddygfeydd teulu ar draws yr ardal.

“Felly, drwy hyfforddi yn y gogledd, mae hi’n llawer iawn tebygach y bydd darparu meddygon yn aros i fod yn ddoctoriaid yn yr ardal yma lle mae ‘na fylchau mawr yn y gwasanaethau.”

Mae’r Aelod o Senedd Cymru nawr yn galw ar drefnwyr y rhaglen newydd i “weithio’n gyflym ac yn effeithiol” er mwyn gweld cynnydd dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.

“Mae raid cael mwy o feddygon yn y system,” dywedodd.

“Mae hynny mor mor bwysig rŵan wrth i ni ymdopi gyda’r holl heriau mae Covid hefyd yn ychwanegu i sefyllfa oedd yn fregus beth bynnag.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.